Pryd mae berfau'n treiglo?
Cofia fod gwrthrych berf yn treiglo'n feddal.
| Brawddeg | Gwrthrych |
| Ysgrifennodd y doctor lythyr. | llythyr |
| Cafodd y fenyw ddamwain. | damwain |
| Gwelodd Huw ddrama dda. | drama |
| Coginiodd fy mam ginio blasus. | cinio |
| Planais flodau yn yr ardd | blodau |
| Brawddeg | Ysgrifennodd y doctor lythyr. |
|---|---|
| Gwrthrych | llythyr |
| Brawddeg | Cafodd y fenyw ddamwain. |
|---|---|
| Gwrthrych | damwain |
| Brawddeg | Gwelodd Huw ddrama dda. |
|---|---|
| Gwrthrych | drama |
| Brawddeg | Coginiodd fy mam ginio blasus. |
|---|---|
| Gwrthrych | cinio |
| Brawddeg | Planais flodau yn yr ardd |
|---|---|
| Gwrthrych | blodau |
Nid yw gwrthrych berf amhersonol yn treiglo.
- Gwelwyd damwain ar y stryd.
- Ysgrifennwyd llyfr gan y fenyw.
- Plannwyd blodau gan yr ysgol.
- Coginiwyd cinio blasus gan fy nhad.
- Gwelwyd drama yn y theatr.
- Cafwyd parti da neithiwr.
Question
Noda'r goddrych a'r gwrthrych yn y brawddegau canlynol. Does dim goddrych ym mhob brawddeg.
- Cafodd y bachgen gar fel anrheg pen-blwydd.
- Canwyd sawl cân boblogaidd yn y gig neithiwr.
- Gwelodd Tomos fwnci yn y sŵ.
- Darganfuwyd corff marchog o'r Canol Oesoedd yn y bedd.
- Cafodd y bachgen (goddrych) gar (gwrthrych) fel anrheg penblwydd.
- Canwyd sawl cân boblogaidd (gwrthrych) yn y gig neithiwr - does dim goddrych yn y frawddeg hon achos bod ffurf y ferf yn amhersonol.
- Gwelodd Ianto (goddrych) fwnci (gwrthrych) yn y sŵ.
- Darganfuwyd corff marchog (gwrthrych) o'r Canol Oesoedd yn y bedd - does dim goddrych yn y frawddeg hon chwaith achos bod ffurf y ferf yn amhersonol.