Defnyddio arddodiaid wrth ysgrifennu
Pwrpas arddodiaid yw dangos y berthynas rhwng gair ac enw/rhagenw.
Dyma'r arddodiaid mwyaf cyffredin:
am, ar, at, gan, dros, drwy, wrth, dan, heb, hyd, i, o.
Edrycha ar sut mae arddodiaid yn cael eu defnyddio yn y brawddegau isod.
- Es i i'r dre ar fws wyth o'r gloch.
- Ymddiheuriodd am beidio â dweud y gwir wrth ei gyfaill
- Ei breuddwyd hi yw i chwarae dros Gymru.
Noda fod treiglad meddal yn dilyn yr arddodiaid uchod hefyd.
Os yw'r arddodiaid yn rhedadwy gallant roi gwybodaeth am y person neu'r peth maen nhw'n cyfeirio atyn nhw, ee yr arddodiad 'amdanaf fi' – gwyddwn ei fod yn cyfeirio at y person cyntaf sef 'fi'. Mae'n bwysig cofio defnyddio'r ffurfiau cywir ar gyfer arddodiaid rhedadwy.
| Arnaf i | Arnom ni |
| Arnat ti | Arnoch chi |
| Arno e/Arni hi | Arnynt hwy/Arnyn nhw |
| Arnaf i |
| Arnom ni |
| Arnat ti |
| Arnoch chi |
| Arno e/Arni hi |
| Arnynt hwy/Arnyn nhw |
Pan mae rhagenw megis 'fi', 'ti', 'ni' ayyb yn dilyn arddodiad mae angen rhedeg yr arddodiad hwnnw.
| Gennyf i/gen i | Gennym ni |
| Gennyt ti | Gennych chi |
| Ganddo e/Ganddi hi | Ganddyn nhw |
| Gennyf i/gen i |
| Gennym ni |
| Gennyt ti |
| Gennych chi |
| Ganddo e/Ganddi hi |
| Ganddyn nhw |
Ymarfer
Question
Rheda'r arddodiad 'wrth'. Dechreua gydag 'wrthof i'.
| Wrthyf i | Wrthon ni |
| Wrthyt ti | Wrthoch chi |
| Wrtho e/Wrthi hi | Wrthyn nhw/Wrthynt hwy |
| Wrthyf i |
| Wrthon ni |
| Wrthyt ti |
| Wrthoch chi |
| Wrtho e/Wrthi hi |
| Wrthyn nhw/Wrthynt hwy |