Costau a buddion siopa ar y rhyngrwyd
Y datblygiad mwyaf mewn siopa 24 awr yw datblygiad y rhyngrwyd. Mae hyn yn galluogi pobl i ymwneud ag adwerthu heb hyd yn oed ymweld â pharc adwerthu, siop neu archfarchnad. Mae’n bosibl archebu eitemau o bob math ar-lein, yn ddillad, bwyd a nwyddau tŷ fel set deledu neu sied i’r ardd.
Manteision siopa ar y rhyngrwyd
- Hwylus – siopa o unrhyw gyfrifiadur neu ffôn symudol â chysylltiad rhyngrwyd unrhyw bryd, heb orfod teithio, talu am barcio na chiwio.
- Mwy o amrywiaeth – mwy o siopau ar-lein nag ar unrhyw stryd fawr neu mewn unrhyw barc adwerthu.
- Nwyddau rhatach – mwy o gystadleuaeth rhwng adwerthwyr, weithiau ar raddfa fyd-eang, yn dod â phrisiau i lawr.
- Hygyrch – gall pobl sydd ag anabledd sy’n cyfyngu ar eu gallu i symud ddewis cael nwyddau wedi’u danfon.
- Cymharu – drwy ddefnyddio’r rhyngrwyd mae’n hawdd gwneud ymchwil trylwyr iawn i gynnyrch neu wasanaethau, gan gymharu prisiau a manylion cynnyrch er mwyn cael y fargen orau.
Costau siopa ar y rhyngrwyd
- Pryderon ynglŷn â diogelwch talu â cherdyn credyd dros y rhyngrwyd.
- Methu archwilio’r nwyddau’n ffisegol cyn eu prynu.
- Nwyddau’n cael difrod wrth gael eu cludo.
- Nwyddau ddim yn cyrraedd mewn pryd, neu ddim yn cyrraedd o gwbl.
- Pryder ynglŷn â pha wybodaeth y mae adwerthwyr yn ei chadw am gwsmeriaid, ee arferion prynu.
- Llai o bobl yn ymweld ag ardaloedd CBD, y stryd fawr a pharciau adwerthu.

Stryd fawr dawel – canlyniad parciau adwerthu y tu allan i’r dref a siopa ar y rhyngrwyd