Mudo – CBACMudo i mewn ac allan o’r DU, ac o fewn y DU

O ganlyniad i fudo, mae strwythur poblogaeth y DU wedi newid llawer iawn o safbwynt cyfansoddiad ethnig. Mae mudo gwirfoddol a gorfodol yn digwydd am sawl rheswm.

Part ofDaearyddiaethCysylltiadau gwledig-trefol

Mudo i mewn ac allan o’r DU, ac o fewn y DU

yw pobl yn symud o un ardal i un arall. Mae’r term yn cynnwys nifer o wahanol fathau o symudiadau, o newidiadau dros dro, ee symudiadau tymhorol, i newidiadau parhaol, boed yn symudiadau o fewn gwlad benodol neu’n symudiadau rhyngwladol o un wlad i wlad arall.

Mae mudo gwirfoddol yn digwydd fel arfer o ganlyniad i a . Mae’r rhain yn cynnwys:

  • cael gwaith
  • dianc rhag tlodi neu beryglon naturiol, ee daeargrynfeydd
  • ffermio tir ffrwythlon
  • cael mynediad at wasanaethau, ee ysgolion ac ysbytai
  • ymuno â ffrindiau a theulu
  • dianc rhag rhyfel neu aflonyddwch sifil
  • byw mewn hinsawdd cynhesach, ee ar ôl ymddeol
  • mynd i brifysgol

Weithiau mae mudo’n cael ei orfodi – mae hyn yn cynnwys achosion pan nad oes gan y mudwr ddim dewis ond symud oherwydd trychineb naturiol, rhyfel neu erledigaeth. Mae unigolyn o’r fath yn cael ei ddisgrifio fel .

Mae’n debyg bod dros 50 miliwn o ffoaduriaid yn y byd. Ffoaduriaid sydd wedi gwneud cais i wlad arall i gael bod yn ddinasyddion y wlad honno yw .