Effaith mudo yn y DU
Mae’r DU wedi gweld sawl ton o fudo, er enghraifft:
- 1850au o Iwerddon, dianc rhag newyn
- 1940au ymlaen o India, Pacistan a Bangladesh, dianc rhag rhyfel cartref a chwilio am waith
- 1950au o India’r Gorllewin, chwilio am waith
- 1972 Asiaid Ugandaidd, dianc rhag erledigaeth gwleidyddol
- 2004 ymlaen o ddwyrain Ewrop, yn enwedig Gwlad Pwyl, chwilio am waith o ganlyniad i ehangu’r UE
Heddiw, India yw’r wlad sydd â’r nifer mwyaf o fudwyr yn ei gadael i ddod i’r DU, ond mae llawer o fewnfudwyr yn dod o wledydd eraill hefyd, fel Pacistan, Iwerddon a Gwlad Pwyl.
Yn 2011, roedd 13 y cant (7.5 miliwn) o drigolion Cymru a Lloegr wedi cael eu geni y tu allan i’r DU.
Yn 2011, roedd y rhan fwyaf o breswylwyr Cymru a Lloegr nad oeddent wedi cael eu geni yn y DU wedi cael eu geni yn India, Gwlad Pwyl neu Bacistan
Mae mudo yn arwain at ganlyniadau diwylliannol ac economaidd i wlad, a all fod yn gadarnhaol ac yn negyddol.
Effeithiau cadarnhaol
- Llenwi bylchau mewn sgiliau.
- Mae pobl sy’n gweithio’n galed o fudd i’r economi.
- Mae gwasanaethau cyhoeddus yn elwa, ee gweithwyr yn y GIG.
- Mae refeniw treth y llywodraeth yn cynyddu.
- Mae diwylliant yn cael ei gyfoethogi, ee bwydydd a gwyliau’r byd.
- Mae grwpiau o fewnfudwyr yn hybu’r gyfradd genedigaethau.
Effeithiau negyddol
- Mae twf yn y boblogaeth yn medru rhoi pwysau ar wasanaethau, tai a seilwaith er mwyn darparu ar gyfer mwy o bobl.
- Gall drwgdeimlad ddatblygu rhwng y boblogaeth wreiddiol a grwpiau o fewnfudwyr, ee efallai y bydd pobl leol yn teimlo bod ganddyn nhw lai o gyfleoedd i gael gwaith oherwydd bod mwy o gystadleuaeth.
- Mae mewnfudwyr yn tueddu i fod wedi eu lleoli gyda’i gilydd mewn ardaloedd dinesig mawr.
- Efallai na fydd grwpiau o fewnfudwyr yn cymathuDod yn rhan o grŵp, cymuned neu gymdeithas. i mewn i gymunedau lleol.
- Anghydbwysedd rhwng dynion a merched - fel arfer mae mwy o ddynion yn mudo.
Mae llawer o bobl yn gadael y DU bob blwyddyn hefyd. Mae Awstralia, De Affrica, Sbaen a’r UDA yn gyrchfannau poblogaidd. Mae pobl yn symud er mwyn cael gwaith a chyfleoedd addysgol. Mae rhai’n ymddeol i wlad fel Sbaen er mwyn cael hinsawdd cynhesach a sychach.