Astudiaeth achos - gweithwyr o Wlad Pwyl
Ymunodd Gwlad Pwyl â’r Undeb Ewropeaidd (UE) yn Ebrill 2004. Mae’r UE yn caniatáu i weithwyr symud o gwmpas yn rhydd (mudo) o fewn y gwledydd sy’n aelodau ohoni. Mae’r llywodraeth yn amcangyfrif bod bron i 1,000,000 o bobl sydd wedi cael eu geni yng Ngwlad Pwyl yn byw yn y DU ers i Wlad Pwyl ymuno â’r UE yn 2004.

Rhesymau
Ffactorau gwthio
- Roedd diweithdra yng Ngwlad Pwyl bron yn 20% yn 2004.
- Roedd incwm bedair gwaith yn llai yng Ngwlad Pwyl nag yn y DU.
Ffactorau tynnu
- Awydd i brofi bywyd dramor a dysgu Saesneg.
- Swyddi yn y DU - yn enwedig ym meysydd hamdden, adeiladu a ffermio.
Effaith ar y DU
Manteision
- Yn dod â sgiliau amrywiol.
- Yn cyfrannu tua £2.5 biliwn y flwyddyn tuag at dwf yr economi.
- 80 y cant o fudwyr rhwng 18 a 35 oed, sy’n gwrthbwyso poblogaeth hŷn y DU.
Pryderon
- Tensiynau rhwng mudwyr a’r boblogaeth leol.
- Y rhan fwyaf o fudwyr yn ddynion 18-34 oed.
- Ysgolion, ysbytai a gwasanaethau eraill yn cael eu rhoi dan bwysau.
- Prisiau eiddo yn codi, oherwydd cynnydd yn y galw am dai.
- Arian yn cael ei anfon allan o’r wlad, yn ôl i Wlad Pwyl.
Datblygiad diweddar 1
Ym Mehefin 2016 pleidleisiodd y DU dros adael yr Undeb Ewropeaidd drwy broses sy’n cael ei galw nawr yn BrexitY term sy’n cyfeirio at Brydain yn pleidleisio i adael yr UE.. Mae rhai adroddiadau yn y cyfryngau’n awgrymu bod llawer o Bwyliaid yn dechrau symud yn ôl i Wlad Pwyl nawr gan eu bod yn ofni na fyddan nhw’n gallu aros yn y DU. Roedd un adroddiad ym mhapur newydd The Sun yn awgrymu bod hyd at 200,000 o’r 1 miliwn o Bwyliaid sy’n byw yn y DU bellach yn mynd yn ôl i Wlad Pwyl, ac mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar yr ardaloedd trefol Pwylaidd mewn trefi a oedd ar un adeg yn dirywio.
Cofiwch y gallai’r stori hon fod yn unochrog neu’n anghywir. Mae'r adroddiad ym mhapur newydd The Sun yn seiliedig ar ganfyddiadau newyddiadurwr ac nid o reidrwydd ar data swyddogol.
Datblygiad diweddar 2
Ym Mehefin 2017 mae ffigurau swyddogol a gafodd eu rhyddhau gan y GIG yn dangos bod gostyngiad o 96 y cant wedi bod yn nifer y nyrsys o’r UE sy’n gwneud cais i weithio yn y DU ers pleidlais Brexit. Mae ffigurau sydd wedi eu casglu gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn dangos bod nifer yr ymgeiswyr newydd o’r UE wedi gostwng o 1,304 ym mis Gorffennaf 2016 i ddim ond 46 ym mis Ebrill 2017.
Wrth ymdrin ag adroddiadau ac ystadegau fel y rhai sy’n cael eu cyflwyno yma, rhaid i ddisgyblion ddeall bod gwahanol ffynonellau yn awgrymu pethau amrywiol ac nad oes sicrwydd eu bod yn wir.