Ffactorau a arweiniodd at ddatblygiad adwerthu y tu allan i’r dref
Ffactorau economaidd
Roedd adwerthu yng nghanol dinasoedd yn ddrud iawn oherwydd costau uchel rhentu tir, ond roedd prynu tir ar gyrion dinasoedd yn rhatach. Yn ogystal, roedd llawer o siopau Canol Busnes y Dref (CBD) yn hen ac angen eu moderneiddio. Byddai hyn hefyd wedi bod yn gostus iawn.
Ffactorau diwylliannol
Ar un adeg, roedd llawer o siopwyr yn gymharol deyrngar i’w siop leol. Heddiw, mae llawer o bobl yn hoffi cymharu’r mathau o nwyddau a chwilio am bris cystadleuol neu eitem unigryw nad yw i’w chael ym mhob man. Mae canolfannau siopa mawr y tu allan i’r dref yn caniatáu i ddefnyddwyr:
- ymweld â nifer o siopau dan yr un to
- cael eu hamddiffyn rhag y gwynt a’r glaw
- parcio am ddim, gan amlaf, sy’n fantais arall i ddefnyddwyr yn y DU sy’n mwynhau’r hyblygrwydd y mae car yn ei gynnig
Ffactorau technolegol
Mae gwelliannau mewn rhwydweithiau ffyrdd, gan gynnwys traffyrdd, yn ein hardaloedd trefol ac o’u cwmpas yn caniatáu i ddefnyddwyr yrru’n gyflym, ac yn aml â llai o dagfeydd, i ardaloedd siopa y tu allan i’r dref o gymharu ag ardaloedd CBD.
Costau siopa y tu allan i’r dref
O ganlyniad i lwyddiant siopa y tu allan i’r dref, mae adwerthu wedi cael ei ddatganoli, ac mae adwerthwyr mawr wedi symud eu safleoedd o leoliadau canolog mewn ardaloedd CBD i gyrion y ddinas. Mae hyn yn achosi effaith toesen (gogledd America) neu polo (yn y DU) lle mae twll economaidd, cymdeithasol ac adwerthol yng nghanol y ddinas.
Effaith amgylcheddol siopa y tu allan i’r dref
Yn ogystal, mae llawer o barciau adwerthu mawr wedi cynyddu traffig a thagfeydd ar y ffyrdd. Mae hyn yn golygu mwy o lygredd o allyriadau pibellau gwacáu ceir, ac mae hynny’n cyfrannu tuag at effaith nwyon tŷ gwydr. Mae rhai parciau adwerthu ar gyrion trefi wedi cael eu datblygu ar safleoedd maes glas. Mae hyn yn niweidiol i’r amgylchedd ac mae’n lleihau’r mannau gwyrdd agored sydd ar gael rhwng un ardal drefol ac un arall.
Manteision siopa y tu allan i’r dref i gwsmeriaid ac adwerthwyr
- Yn aml iawn mae siopwyr yn gallu parcio am ddim, ac nid oes rhaid iddynt deithio i leoliadau prysur llawn tagfeydd yng nghanol y ddinas. Yn ychwanegol at hyn, mae’r siopau i gyd dan yr un to – wedi’u gorchuddio rhag y tywydd yn aml. Mae’n bosibl hefyd y bydd crèche ac ardaloedd chwarae i blant, sy’n gallu gwneud y profiad siopa’n fwy pleserus.
- Mae adwerthwyr yn cael budd o’r lleoliadau hyn oherwydd bod ganddynt unedau cyfoes, mwy o ran maint sy’n eu galluogi i ddangos mwy o amrywiaeth o nwyddau i’w gwerthu. Mae mynediad hwylus i gerbydau danfon hefyd.
Siopa 24 awr
Mae naw tan bump yn dal yn ffordd boblogaidd o siopa ar y stryd fawr. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae pobl yn disgwyl gallu siopa 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos, naill ai ar-lein o’u cartrefi eu hunain neu drwy ymweld â siop fawr sydd ar agor 24 awr y diwrnod.