Sut a pham mae adwerthu’n newid?
O angenrheidrwydd i hobi
Yn y gorffennol, roedd angen i bobl siopa er mwyn prynu nwyddau. Roedd yr angen am nwyddau’n seiliedig ar ba mor aml roedd eu hangen ac ar y gost. Mae dau fath sylfaenol o nwyddau – nwyddau cyfleus a nwyddau cymhariaeth.
Nwyddau cyfleus – nwyddau sy’n cael eu prynu bron bob dydd, er enghraifft bara a llaeth, ac sydd ar gael yn rhwydd yn y rhan fwyaf o siopau. Mae’r cynnyrch hyn yn hanfodol i siopwyr, oherwydd hebddyn nhw byddai’n anodd iawn i bobl fwydo’u hunain.
Nwyddau cymhariaeth – mae gan y rhain werth uwch ac maen nhw’n cael eu prynu’n llai aml, er enghraifft nwyddau tŷ, nwyddau trydanol, dillad ac esgidiau. Mae pobl yn tueddu i fynd i nifer o siopau i gymharu cynnyrch cyn eu prynu.
Canlyniad hyn oedd bod llawer o nwyddau cyfleus yn cael eu prynu mewn siopau lleol bach, fel siop y cigydd, siop y groser, y siop fara neu ganolfannau siopa lleol. Datblygodd siopau cornel a siopau lleol oedd yn gwasanaethu anghenion pobl a oedd o fewn pellter cerdded ac yn darparu’r nwyddau cost isel hyn iddynt.
Byddai siopau mwy yng nghanol busnes y dref (CBD) yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i werthu’r nwyddau cymhariaeth mwy costus. Mae’r siopau hyn yn clystyruPan fydd clwstwr o bethau’n ffurfio. mewn llawer o ganolfannau siopa er mwyn i siopwyr allu cymharu nwyddau yn rhwydd. Mae hyn yn digwydd â siopau esgidiau neu siopau dillad, er enghraifft. Yn aml iawn mae angen defnyddio’r car neu gludiant cyhoeddus i fynd i ganol y ddinas neu CBD er mwyn prynu nwyddau cymhariaeth.

Heddiw, mae llawer o bobl yn mynd ar dripiau siopa, gan ymweld â dinasoedd fel Llundain, Paris neu Efrog Newydd dim ond er mwyn cael y profiad siopa. Mae canolfannau siopa modern hefyd yn cynnwys gweithgareddau amrywiol, er enghraifft sinemâu, crèche a thai bwyta gwahanol. Mae hyn yn annog pobl i wneud siopa’n weithgaredd trip diwrnod, ac mae rhai pobl yn ystyried siopa fel hobi. O ganlyniad, mae’r cylch dylanwad wedi cynyddu erbyn heddiw. Mae hyn yn golygu bod pobl yn gallu teithio’n llawer pellach i siopa, a’u bod yn barod i wneud hynny.
Fodd bynnag, pan mae pobl yn prynu nwyddau cyfleus yn bennaf, nid ydynt bob amser yn barod i deithio’n bell, felly mae’r cylch dylanwad yn aml yn llawer llai yn yr achosion hynny.
Cost a budd siopa y tu allan i’r dref
Yn y 1980au, cafodd deddfau cynllunio eu llacio. Roedd nifer y perchnogion ceir yn cynyddu a dechreuodd Llywodraeth y DU annog adwerthu ar gyrion dinasoedd. Roedd tir ac eiddo adwerthu yng nghanol y ddinas yn ddrud iawn, ond roedd tir ar y cyrion yn rhad iawn mewn cymhariaeth. Arweiniodd hyn at ddatblygu canolfannau siopa y tu allan i drefi.
