Fideo-gynadledda
Mae fideo-gynadledda yn golygu defnyddio cyfrifiaduron i ddarparu cyswllt fideo rhwng dau neu fwy o bobl. Yn lle siarad gyda phobl dros y ffôn, mae’n bosibl eu gweld nhw hefyd.
Cyfarpar
Mae angen y canlynol er mwyn cymryd rhan mewn galwad fideo-gynadledda:
- cyfrifiadur
- gwe-gamera
- microffon (mae’r rhan fwyaf o we-gamerâu yn cynnwys microffon)
- seinyddion
- mynediad i rhyngrwydRhwydwaith byd-eang sy’n cysylltu miliynau o gyfrifiaduron.band eangCysylltiad rhyngrwyd cyflym.
- meddalweddY rhaglenni, apiau a data sydd mewn system gyfrifiadurol. Unrhyw ran o system gyfrifiadurol sydd ddim yn rhan ffisegol. fideo-gynadledda
Mae’n bosibl prynu peiriant fideo-gynadledda arbennig ar gyfer y diben hwn.
Manteision fideo-gynadledda
- Mae’n bosibl cynnal cyfarfodydd heb adael y swyddfa.
- Mae’n bosibl lleihau costau teithio a’r amser y mae’n ei gymryd i deithio.
- Mae’n bosibl galw cyfarfodydd ar unwaith ar gyfer pobl ym mhob cwr o’r byd heb lawer o rybudd.
- Gall cynrychiolwyr gymryd rhan mewn cyfarfodydd hyd yn oed os nad ydynt yn gallu bod yno’n bersonol.
Anfanteision fideo-gynadledda
- Efallai nad yw mor gynhyrchiol â thrafodaeth o gwmpas y bwrdd.
- Efallai y bydd angen i ddogfennau cyfrinachol gael eu gweld a’u llofnodi’n bersonol.
- Bydd adegau bob amser pan mae angen i bobl gyfarfod wyneb yn wyneb.