Sut mae TGCh wedi arwain at newid mewn patrymau gwaith
Mae technoleg gwybodaeth wedi arwain at lawer o newidiadau yn y ffordd rydyn ni’n gweithio, lle rydyn ni’n gweithio a hyd yn oed pryd rydyn ni’n gweithio. Mae wedi cael effaith anhygoel ar ein gwaith.
Heddiw, mae cwsmeriaid yn disgwyl i hyd yn oed y busnesau lleiaf gael gwefanTudalen we neu grŵp o dudalennau gwe sy’n cael eu lletya ar un gweinydd ac yn cael eu gweld mewn porwr gwe, sydd fel arfer yn cael ei gynnal gan unigolyn, grŵp neu sefydliad. broffesiynol, llawn gwybodaeth. Mae busnesau sydd heb symud gyda’r oes a dal i fyny â’r datblygiadau ym maes cyfathrebu a TGCh wedi rhoi eu hunain dan anfantais.
Erbyn hyn mae’n gyffredin i hysbysebion gynnwys cyfeiriad gweY set gyflawn o’r holl dudalennau gwe a dogfennau sy’n cael eu cadw ar bob gweinydd rhyngrwyd. Mae hefyd yn cael ei galw’n we fyd-eang. yn ogystal â rhif ffôn, neu hyd yn oed yn lle rhif ffôn.
Effaith ar gyflogaeth
Mae cyflwyno technoleg gwybodaeth wedi achosi rhywfaint o ddiweithdra, er enghraifft:
- dim ond llond llaw o staff sydd eu hangen mewn warysau sy’n cael eu rheoli gan gyfrifiadur
- mae robotiaid sy’n cael eu rheoli gan gyfrifiadur yn gyffredin ar linellau cynhyrchu erbyn hyn, ac yn cymryd lle pobl
- mae sgiliau traddodiadol gweithwyr yn y diwydiant argraffu wedi mynd yn henffasiwn erbyn hyn
- mae rhai swyddi wedi diflannu gan fod modd gwneud y gwaith yn awtomataidd erbyn hyn, er enghraifft, marcio papurau arholiad dewis lluosog
Er hyn, mae’n deg dweud bod datblygu technoleg gwybodaeth wedi arwain at lawer o swyddi newydd megis technegwyr cyfrifiadurol, rhaglenwyr, cynllunwyr gwefannau a dadansoddwyr systemau.
Dysgu yn y gwaith
Mae TG yn fwy tebygol o fod wedi newid gwaith rhywun yn hytrach nag achosi i rywun golli ei waith. Mewn ambell broffesiwn mae pobl wedi gorfod cael eu hailhyfforddi i ddefnyddio technoleg fodern:
- Erbyn hyn mae ysgrifennydd/ysgrifenyddes yn defnyddio prosesydd geiriau, nid teipiadur.
- Mae asiantaethau teithio’n trefnu gwyliau drwy gyfrifiadur, nid dros y ffôn neu drwy lythyr.
- Mae bancio dros y ffôn wedi golygu bod llawer o staff banc erbyn hyn yn gweithio dros y ffôn o flaen cyfrifiadur, ac nid mewn cangen, y tu ôl i gownter.
- Mae dat-sgilio wedi digwydd, hynny yw, colli sgiliau. Mae rhai swyddi lle’r oedd angen lefel uchel o sgiliau yn y gorffennol yn haws i’w gwneud erbyn hyn. Er enghraifft, gall gweithwyr argraffu ddefnyddio cyhoeddi bwrdd gwaithRhaglen sy’n caniatáu i rywun osod testun a delweddau ar dudalen. i osod eu gwaith heddiw.
- Erbyn hyn mae dylunwyr yn defnyddio meddalwedd CADMae’n cael ei defnyddio’n helaeth yn y diwydiant ceir a’r diwydiant awyrofod, ac mewn dylunio pensaernïol i wneud dyluniadau 2D a 3D. yn hytrach na phapur a phensel ar fwrdd lluniadu.