Effaith gymdeithasol ac amgylcheddolTeleweithio

Erbyn hyn mae TGCh yn cael ei hystyried yn sgil hanfodol ac mae wedi newid patrymau gweithio. Mae gan TGCh fanteision ac anfanteision.

Part ofTGChEffaith gymdeithasol ac amgylcheddol

Teleweithio

Mae teleweithio, neu telegymudo fel mae’n cael ei alw weithiau, yn golygu gweithio gartref gan ddefnyddio technoleg fodern i gadw mewn cysylltiad â’r busnes. Mae’n bosibl adleoli swyddi i lefydd sy’n fwy atyniadol, yn fwy cyfleus neu’n rhatach i fyw ynddyn nhw.

Cymeriad yn gweithio o bell, mewn gweithle yn ei chartref.

Technoleg sydd ei hangen ar gyfer teleweithio

Er mwyn gweithio’n effeithiol, mae angen i deleweithwyr gael y canlynol:

  • cyfrifiadur â mynediad i’r
  • cyfrif

Bydd rhai teleweithwyr hefyd yn defnyddio:

  • ffôn symudol
  • cyfarpar fideogynadledda

Manteision i’r cyflogwr

  • Mae’n bosibl lleihau costau rhedeg swyddfa a gorbenion (trethi, trydan, gwres, ac yn y blaen), a gallai hynny yn ei dro olygu nad oes angen cymaint o ofod swyddfa.
  • Mae’n bosibl lleihau problemau sy’n gysylltiedig â theithio, er enghraifft, staff yn methu â dod i’r gwaith oherwydd oedi ar y ffyrdd neu’r rheilffyrdd.
  • Gallai demtio staff gwell i ddod i weithio i’r cwmni.

Anfantais i’r cyflogwr

  • Mae angen i gyflogwyr allu ymddiried yn eu staff a bod yn barod i gael llai o reolaeth uniongyrchol drostynt.

Manteision i’r gweithiwr

  • Gweithio mewn amgylchedd cyfforddus – eu cartref.
  • Dim taith i’r gwaith a dim costau teithio.
  • Gweithio o amgylch anghenion y teulu.

Anfanteision i’r gweithiwr

  • Llai o ryngweithio â phobl – llai o gyfleoedd i gyfarfod pobl, rhannu syniadau, ac yn y blaen.
  • Anos gweithio fel rhan o dîm, yn enwedig os yw pawb yn gweithio mewn swyddfa.
  • Mwy o demtasiwn i dreulio amser yn gwneud pethau sydd ddim yn gysylltiedig â gwaith.
  • Anodd cadw bywyd personol a gwaith ar wahân.