Effaith gymdeithasol ac amgylcheddolCynnyrch o ansawdd gwell

Erbyn hyn mae TGCh yn cael ei hystyried yn sgil hanfodol ac mae wedi newid patrymau gweithio. Mae gan TGCh fanteision ac anfanteision.

Part ofTGChEffaith gymdeithasol ac amgylcheddol

Cynnyrch o ansawdd gwell

  • Dylai cynnyrch sy’n cael eu gwneud â chyfrifiadur fod o well ansawdd nag o’r blaen. Er enghraifft, mae cyrff ceir yn cael eu weldio’n fwy cywir gan robotiaid na gan bobl.
  • Nid yw robotiaid yn blino, felly mae ansawdd y gwaith yn gyson.
  • Mae peiriannau sy’n cael eu rheoli gan gyfrifiadur yn fwy dibynadwy na’r rhai sy’n cael eu rheoli gan bobl.
  • Ffurfiau bychain – mae maint llawer o eitemau trydanol, fel ffonau symudol a chamerâu fideo, wedi mynd yn llawer llai oherwydd datblygiadau ym maes technoleg.