Tablau dwyffordd
Mae tabl dwyffordd yn ffordd o drefnu data sy’n ymwneud â dau newidyn penodol. Mae’r enghraifft hon yn dangos tabl dwyffordd, a’r newidynnau yw rhyw a hoff chwaraeon.
Mae yna lawer o wybodaeth yn y tabl. Er enghraifft, gallwn weld mai:
- cyfanswm nifer y bobl yn y sampl yw 60
- 20 person sy’n hoffi rygbi
- 7 merch sy’n hoffi pêl-droed
Gallwn hefyd edrych ar y tebygolrwydd sy’n gysylltiedig â phob grŵp yn y tabl.
Enghraifft un
Beth yw’r tebygolrwydd o hapddewis person sy’n hoffi rygbi?
Mae 20 person yn hoffi rygbi, ac mae cyfanswm o 60 person, felly’r tebygolrwydd yw \(\frac{20}{60}\) = \(\frac{1}{3}\).
Enghraifft dau
Os bydd merch yn cael ei hapddewis, beth yw’r tebygolrwydd ei bod yn hoffi chwaraeon gwahanol i bêl-droed neu rygbi?
Mae 28 o fenywod, ac mae’n well gan 13 ohonyn nhw chwaraeon gwahanol i bêl-droed neu rygbi, felly’r tebygolrwydd yw \(\frac{13}{28}\).
Cwblhau tabl dwyffordd
Yn aml, bydd gofyn i chi gwblhau tabl dwyffordd sydd wedi ei lenwi’n rhannol. Gallwn wneud hyn drwy fanteisio ar y ffaith fod yna gyfanswm ar ddiwedd pob rhes neu golofn.
Mae’r tabl isod yn dangos incwm pobl o’i gymharu â’u hoedran – ond mae yna rifau ar goll. Gallwn lenwi unrhyw fwlch os mai hwnnw yw’r unig rif sydd ar goll yn y rhes neu’r golofn dan sylw.
Mae’r rhannau sydd wedi eu lliwio’n felyn neu’n las yn cynnwys rhifau sydd ar goll. Gallwn gyfrifo’r rhai melyn ar unwaith ond mae’n amhosib llenwi’r gell las heb lenwi’r rhai o’i chwmpas yn gyntaf – mae hyn oherwydd nad oes gennyn ni ddigon o wybodaeth ar hyn o bryd. Os ydyn ni eisiau llenwi’r gell las, rhaid i ni’n gyntaf gyfrifo naill ai’r gell felen ar y chwith iddi, neu’r gell felen oddi tani.
I gyfrifo’r gell wag yn y golofn ‘Llai na £20k’, yn syml, rydyn ni’n adio’r gwerthoedd at ei gilydd i ganfod y cyfanswm sydd ar goll:
24 + 7 + 3 = 34
I ganfod y gwerth sydd ar goll yn y golofn ‘£20k-40k’, rhaid i ni dynnu’r 12 a’r 9 o’r 33:
33 – 12 – 9 = 12
I ganfod y gwerth sydd ar goll yn y golofn ‘£40-60k’, rhaid i ni edrych ar draws y rhes. Gan ddefnyddio’r rhes 40+, gwelwn fod yn rhaid i ni dynnu 3, 9 a 5 o 31:
31 – 3 – 9 – 5 = 14
Mae gennyn ni nawr ddwy ffordd y gallwn ni gyfrifo’r rhif sydd ar goll yn y gell las. Gallwn naill ai dynnu 7, 12 a 2 o 33:
33 – 2 – 7 – 12 = 12
neu gallwn dynnu 2 ac 14 o 28:
28 – 2 – 14 = 12
Mae’r tabl gorffenedig nawr yn edrych fel hyn: