Ffordd fwy cywir o amcangyfrif tebygolrwydd
Er mwyn cael amcangyfrif mwy cywir o’r tebygolrwydd, byddai’n rhaid i ni edrych ar nifer fwy o dreialon.
Enghraifft
Beth am i ni ddychmygu bod gennyn ni fag sy’n cynnwys dau fath gwahanol o losin ond nid ydyn ni’n gwybod faint o bob losin sydd ynddo.
Os bydden ni’n cymryd losinen o’r bag 10 o weithiau - gan roi’r losinen yn ôl yn y bag bob tro ar ôl edrych arni - a’n bod yn cael losinen goch 4 gwaith allan o 10, yna’r amlder cymharol fyddai \(\frac{4}{10}\). Fe fydden ni’n amcangyfrif mai’r tebygolrwydd o gael losin coch oedd \(\frac{4}{10}\) neu 0.4.
Pe baen ni’n gwneud hyn 10 o weithiau eto, ac yn cael 1 losinen goch yn unig, gallen ni gyfuno ein canlyniadau i gael amlder cymharol newydd, sef \(\frac{5}{20}\) ac felly byddai amcangyfrif newydd y tebygolrwydd o gael losin coch yn \(\frac{5}{20}\) neu 0.25.
Pe baen ni’n edrych y tu mewn i’r bag, bydden ni’n gweld mai’r gwir debygolrwydd yw \(\frac{3}{10}\) neu 0.3 gan fod yna 3 losinen goch allan o gyfanswm o 10 losin, felly nid oedd ein hamcangyfrif yn bell ohoni.
Wrth ddefnyddio amlder cymharol i amcangyfrif tebygolrwydd, mae’n bwysig i ni nodi po fwyaf yw nifer y treialon, y mwyaf cywir fydd yr amcangyfrif.
Pe baen ni’n parhau i gymryd losin allan o’r bag mewn setiau o 10, ac yn plotio graff o’n canlyniadau, gallen ni ddisgwyl gweld rhywbeth sy’n edrych fel hyn:
Dyma sut rydyn ni’n defnyddio graff i gynrychioli amlder cymharol a nifer y treialon. Wrth i nifer y treialon gynyddu, dylai sefydlogrwydd y graff wella hefyd.