Rhyngwynebau defnyddwyr graffigol
Mae rhyngwyneb defnyddiwr graffigol weithiau’n cael ei alw’n GUI (graphical user interface). Fel arfer mae’r defnyddiwr yn dewis opsiwn drwy bwyntio llygoden at eicon sy’n cynrychioli’r opsiwn hwnnw.
Mae nodweddion GUI yn cynnwys y canlynol:
- Maen nhw’n llawer haws i’w defnyddio, o safbwynt dechreuwyr.
- Maen nhw’n dy alluogi di i gyfnewid gwybodaeth yn hawdd rhwng meddalweddY rhaglenni, apiau a data sydd mewn system gyfrifiadurol. Unrhyw ran o system gyfrifiadurol sydd ddim yn rhan ffisegol. gan ddefnyddio torri a gludo neu 'llusgo a gollwng'.
- Maen nhw’n defnyddio llawer o cofY rhan o gyfrifiadur sy’n storio data. a pŵer prosesuMesur o allu prosesydd i brosesu cyfarwyddiadau – po fwyaf ei bŵer, po gyflymaf y mae’n prosesu cyfarwyddiadau.. Maen nhw’n gallu bod yn arafach i’w defnyddio na rhyngwyneb llinell orchymyn os wyt ti’n ddefnyddiwr arbenigol.
- Maen nhw’n gallu bod yn ddiflas i ddefnyddwyr profiadol pan mae angen mynd drwy nifer o gamau er mwyn cyflawni tasgau syml.
Wrth drafod rhyngwynebau defnyddwyr, mae’n bwysig nodi bod gan Windows XPSystem weithredu gan Microsoft., Windows VistaSystem weithredu gan Microsoft., OSXFersiwn o system weithredu Mac OS ar gyfer cyfrifiaduron Apple. ac UbuntuSystem weithredu ffynhonnell agored (ar gael am ddim). i gyd ryngwynebau defnyddwyr graffigol.
Rhyngwynebau defnyddwyr da
Dylai rhyngwyneb defnyddiwr da:
- fod yn ddeniadol ac yn ddymunol i’r llygad
- caniatáu i’r defnyddiwr roi cynnig ar wahanol opsiynau yn hawdd
- bod yn hawdd i’w ddefnyddio
- defnyddio lliwiau addas ar gyfer meysydd allweddol
- defnyddio geiriau sy’n hawdd eu deall ac sydd wedi’u hanelu at y math o ddefnyddiwr
- cynnwys dogfennau cymorth
Dylai hefyd ystyried anghenion defnyddwyr. Er enghraifft, mae’n debyg y bydd yn well gan blant ifanc weld lluniau yn hytrach na geiriau, ac efallai y byddai pobl sydd ag anableddau’n elwa o dyfais allbynnuDyfais sy’n cael ei defnyddio i allbynnu data neu wybodaeth o gyfrifiadur, er enghraifft monitor, argraffydd neu seinyddion. neu allbwnData sy’n cael eu hanfon allan o system. penodol.