Dulliau gweithredu
Gall cyfrifiaduron weithio mewn llawer o wahanol ffyrdd. Weithiau mae angen system weithreduY feddalwedd sy’n rheoli’r adnoddau caledwedd a meddalwedd mewn system gyfrifiadurol. gwahanol a chymhleth.
Prosesu amser real
Pan mae’r cyfrifiadur yn gorfod ymateb i mewnbwnData sy’n cael eu mewnbynnu i system i’w prosesu a/neu eu storio. o fewn amser penodol, mae system weithredu amser real (RTOS) yn cael ei defnyddio. Er enghraifft, mae system reoli injan car yn defnyddio system weithredu amser real er mwyn ymateb i adborthGwybodaeth sy’n cael ei defnyddio i addasu perfformiad. o synhwyryddDyfais sy’n mesur meintiau ffisegol ac yn eu trosi’n signalau i gael eu darllen a’u dehongli. sydd wedi’u gosod yn yr injan.
Nid oes rhaid i system weithredu amser real fod yn gyflym o reidrwydd, ond mae’n rhaid iddi fod yn ddigon cyflym i ymateb i fewnbynnau mewn ffordd y mae’n bosibl ei rhagweld. Mae cyfrifiaduron sydd wedi’u mewnblannu yn aml yn cynnwys RTOS gan fod llawer ohonyn nhw’n cael eu defnyddio i reoli rhywbeth.
Mae cyfrifiaduron sy’n gweithredu mewn amser real yn aml wedi’u neilltuo ar gyfer rheoli systemau, fel prosesau diwydiannol, awyrennau a theithiau i’r gofod.
Amlraglennu
Mae amlraglennu yn ddull o weithredu lle mae’n ymddangos bod llawer o rhaglenDilyniannau o gyfarwyddiadau i gyfrifiadur. yn gweithio yr un pryd.
Mae’r system weithredu yn symud tasgau i mewn ac allan o amser prosesyddFfordd syml o gyfeirio at uned brosesu ganolog (CPU). yn ôl trefn blaenoriaeth. Er enghraifft, tra mae amser argraffydd yn cael ei neilltuo ar gyfer un dasg, bydd tasg arall yn cael ei phrosesu yn y cofY rhan o gyfrifiadur sy’n storio data.. Mae’r prosesydd yn gweithio mor gyflym fel ei bod yn ymddangos bod llawer o dasgau’n cael eu prosesu yr un pryd.
Swp-brosesu
Mewn system swp-brosesu mae rhaglenni neu ddata yn cael eu casglu at ei gilydd mewn swp ac yn cael eu prosesu gyda’i gilydd. Fel arfer mae’r gwaith o brosesu cyflogau, biliau trydan, anfonebau a thrafodion dyddiol yn cael ei wneud fel hyn.
Mae’r dull hwn o weithredu’n addas ar gyfer tasgau sydd â mewnbynnau, dulliau prosesu ac allbwnData sy’n cael eu hanfon allan o system. tebyg lle nad oes angen i bobl ymyrryd. Mae tasgau’n cael eu storio mewn ciw nes bydd y cyfrifiadur yn barod i’w gwneud. Yn aml iawn mae tasgau sy’n cael eu swp-brosesu yn cael eu gwneud dros nos.
Prosesu rhyngweithiol
Mewn system brosesu ryngweithiol mae’r tasgau ar y system gyfrifiadurol yn galw am gyfnewid gwybodaeth yn barhaus rhwng y defnyddiwr a’r system gyfrifiadurol. Mae’r system hon yn cael ei hystyried fel y gwrthwyneb i swp-brosesu.
Amlorchwyl
Nid rhedeg mwy nag un rhaglen (ap)Rhaglen feddalwedd sy’n caniatáu i ddefnyddiwr gyflawni tasg benodol. yr un pryd yw’r unig beth sy’n digwydd mewn dull prosesu amlorchwyl. Mae prosesu amlorchwyl yn caniatáu i nifer o orchwylion gael eu cyflawni yr un pryd, gan gymryd eu tro i ddefnyddio adnoddau’r cyfrifiadur.
Gall hyn olygu rhedeg ap neu ddau, anfon dogfen i’r argraffydd a chael tudalen weTudalen sydd wedi’i chynllunio ar gyfer porwr gwe, ac sy’n cael ei gweld mewn porwr gwe. i llwytho i lawrCopïo ffeil o’r rhyngrwyd i gyfrifiadur neu ddyfais..
Amlfynediad neu amlddefnyddiwr
Gall cyfrifiaduron personol modern ganiatáu mynediad amlddefnyddiwr. Mae system amlfynediad (neu amlddefnyddiwr) yn un lle gall nifer o ddefnyddwyr ddefnyddio’r un system gyda’i gilydd drwy rwydwaith LANRhwydwaith ardal leol. Rhwydwaith o gyfrifiaduron sy’n darparu ar gyfer ardal fach, er enghraifft ysgol neu goleg..
Mae’r CPU/prosesyddUned brosesu ganolog – ymennydd y cyfrifiadur sy’n prosesu cyfarwyddiadau rhaglenni. yn ymdrin â defnyddwyr yn eu tro; wrth gwrs, os bydd mwy o ddefnyddwyr, bydd yr amser ymateb yn arafach. Yn gyffredinol, fodd bynnag, mae’r prosesydd mor gyflym fel nad yw’r amser ymateb fawr mwy na chwinciad ac mae’r defnyddiwr yn teimlo bod ei gais yn cael sylw ar unwaith.