Rhyngwynebau cyfrifiadur-dynRhyngwynebau defnyddwyr

Rhaglen sy’n rheoli ac yn trefnu gweithrediad cyffredinol y cyfrifiadur yw system weithredu.

Part ofTGChRhyngwynebau cyfrifiadur-dyn (HCIs)

Rhyngwynebau defnyddwyr

Rhyngwyneb defnyddiwr yw’r ffordd y mae’r defnyddiwr a’r cyfrifiadur yn cyfnewid gwybodaeth a chyfarwyddiadau. Mae tri phrif fath – rhyngwyneb llinell orchymyn, rhyngwyneb wedi’i yrru gan ddewislenni a rhyngwyneb defnyddiwr graffigol (GUI).

Rhyngwynebau llinell orchymyn

Mae rhyngwyneb llinell orchymyn yn caniatáu i’r defnyddiwr ryngweithio â’r cyfrifiadur drwy deipio . Mae’r cyfrifiadur yn arddangos anogwr, mae’r defnyddiwr yn teipio’r gorchymyn ac yn pwyso Enter neu Return.

Un person yn defnyddio llinell orchymyn ar liniadur a’r llall yn defnyddio rhyngwyneb defnyddiwr nodweddiadol.

Yn nyddiau cynnar cyfrifiaduron personol, roedd pob un yn defnyddio rhyngwynebau llinell orchymyn.

Nodweddion rhyngwyneb llinell orchymyn

  • Os nad yw’r gorchmynion yn cael eu teipio’n gywir ac yn y drefn iawn, fyddan nhw ddim yn gweithio.
  • Gall defnyddwyr profiadol sy’n gwybod y gorchmynion weithio’n gyflym iawn heb orfod canfod eu ffordd o gwmpas dewislenni.
  • Un o fanteision wedi’u gyrru gan orchmynion yw’r ffaith nad oes angen a y cyfrifiadur diweddaraf. Yn aml iawn byddant yn gweithio ar beiriannau sydd heb gymaint o bŵer.
  • Does dim angen i raglenni wedi’u gyrru gan orchmynion redeg yn .
  • Gall rhyngwyneb llinell orchymyn redeg llawer o raglenni, er enghraifft gallai ffeil swp lansio hanner dwsin o raglenni i gyflawni ei thasg.
  • Gall defnyddwyr amhrofiadol deimlo bod rhaglen wedi’i gyrru gan orchmynion yn anodd i’w defnyddio oherwydd bod angen dysgu llawer o orchmynion.

Enghraifft o fath cyffredin o ryngwyneb wedi’i yrru gan orchmynion yw MS-DOS. Y gorchymyn MS-DOS i arddangos pob ffeil ar c:\ fyddai: dir c:\