Rhyngwynebau wedi’u gyrru gan ddewislenni
Dewislen syml
Mae’r defnyddiwr yn cael cynnig dewislen syml i ddewis opsiwn ohoni. Yn aml iawn mae un ddewislen yn arwain at ddewislen arall. Efallai y bydd rhan o’r sgrin yn cynnwys cyfarwyddyd yn cael ei ddilyn gan restr o opsiynau wedi’u rhifo i ddewis ohonynt.
Dewislen sgrin lawn
Mae dewislen sgrin lawn yn defnyddio’r sgrin gyfan.
Bar dewislenni
Bar dewislenni yw’r set o opsiynau yn rhan uchaf y sgrin. Pan fydd opsiwn yn cael ei ddewis mae’n bosibl y bydd cwymplen i’w gweld.
Mae nodweddion rhyngwynebau wedi’u gyrru gan ddewislenni yn cynnwys y canlynol:
- maen nhw’n hawdd i’w defnyddio gan nad oes rhaid i’r defnyddiwr gofio setiau o orchmynion
- maen nhw’n ystyriol o’r defnyddiwr (yn ‘gyfeillgar’) – yn aml iawn mae’n bosibl i ti ddyfalu dy ffordd o gwmpas yr opsiynau
- maen nhw’n gallu bod yn ddiflas os oes gormod o lefelau o ddewislenni i symud o’u cwmpas – mae rhyngwyneb llinell orchymyn yn gadael i ti fynd yn syth at yr opsiwn sydd ei angen