Defnyddiau clyfar
Defnyddiau clyfar yw defnyddiau â phriodweddau sy’n newid yn gildroadwy, hynny yw maen nhw’n gallu newid yn hawdd ond yna’n gallu newid yn ôl yn hawdd, gan ddibynnu ar newidiadau yn yr amgylchoedd. Dyma rai enghreifftiau.
Pigmentau thermocromig
Mae pigmentau thermocromig yn newid lliw ar dymheredd penodol. Mae enghreifftiau’n cynnwys mygiau sy’n newid lliw, llwyau sy’n newid lliw, dangosyddion pŵer ar fatrïau a thermomedrau talcen.
Pigmentau ffotocromig
Mae pigmentau ffotocromig yn newid lliw mewn golau. Gallwn ni eu defnyddio nhw mewn dillad ond y ffordd fwyaf cyffredin o’u defnyddio nhw yw mewn lensiau ffotocromig i sbectolau, sy’n tywyllu mewn golau uwchfioled. Mae hyn yn golygu bod y sbectol yn gweithio fel sbectol haul ar ddiwrnod heulog, ond yn troi’n ôl yn sbectol normal yn sydyn pan mae’r lensiau’n mynd allan o olau’r haul.
Polymer sy’n cofio siâp
Mae polymer sy’n cofio siâp yn gallu cael ei blygu o’i siâp gwreiddiol a dychwelyd i’w siâp gwreiddiol wrth gael ei wresogi. Mae modd defnyddio’r rhain mewn offer chwaraeon, fel helmedau a thariannau ceg, neu mewn bymperi ceir sy'n cael eu gwresogi i fynd â nhw’n ôl i’w siâp gwreiddiol ar ôl gwrthdrawiad bychan. Hefyd, gall pwythau meddygol dynhau eu hunain wrth i glwyf wella.
Aloi sy’n cofio siâp
Mae aloion sy’n cofio siâp yn gymysgeddau o fetelau sy’n dychwelyd i’w siâp gwreiddiol wrth gael eu gwresogi, yn debyg i bolymerau sy’n cofio siâp. Eto, mae modd defnyddio’r math hwn o ddefnydd clyfar mewn offer chwaraeon a chyrff ceir, yn ogystal ag mewn rhai triniaethau meddygol, fel platiau llawfeddygol i uno esgyrn sydd wedi torri. Wrth i’r corff gynhesu’r aloi, mae’n rhoi mwy o dyniant na phlatiau arferol, ac mae’r esgyrn yn gallu gwella’n gyflymach. Er enghraifft, mae nitinol yn aloi sy’n cofio siâp sy’n cael ei wneud o nicel a thitaniwm.
Hydrogeliau
Mae hydrogeliau’n gallu amsugno hyd at 1,000 gwaith eu cyfaint eu hunain o ddŵr. Ar ôl amsugno’r dŵr hwn, maen nhw’n gallu ei ryddhau pan mae’r amgylchoedd yn sych. Mae newidiadau tymheredd neu pH hefyd yn gallu achosi i’r hydrogel ryddhau dŵr. Dyma rai ffyrdd o ddefnyddio hydrogeliau:
- cyhyrau artiffisial
- gel gwallt
- clytiau/cewynnau
- eira ‘hud’ sy’n ehangu
- gronigion i’w rhoi mewn pridd i helpu i gadw dŵr i blanhigion
