Adeileddau a phriodweddauAdeiledd ïonig enfawr

Mae mathau gwahanol o adeileddau yn digwydd o ganlyniad i fondio, gan effeithio ar briodweddau deunyddiau pob dydd.

Part ofCemegBondio, adeiledd a phriodweddau

Adeiledd ïonig enfawr

Mae’r mewn , fel sodiwm clorid, wedi’u trefnu mewn adeiledd ïonig enfawr (neu ddellten ïonig enfawr). Mae’r trefniad rheolaidd hwn yn arwain at ffurfio .

Mae’r diagram yn dangos rhan o ddellten grisial sodiwm clorid:

Ïonau sodiwm a chlorid wedi'u pecynnu'n dynn mewn rhesi a cholofnau.
Figure caption,
Ïonau Na+ â gwefr bositif, ïonau Cl â gwefr negatif

Mae’r patrwm hwn yn ailadrodd i bob cyfeiriad, gan roi adeiledd dellten tri dimensiwn enfawr mewn grisialau sodiwm clorid.

Oherwydd y cryf rhyngddyn nhw, mae angen llawer iawn o egni i wahanu’r ïonau positif a negatif mewn dellten grisial. Mae hyn yn golygu bod gan gyfansoddion ïonig ymdoddbwyntiau a berwbwyntiau uchel.

Dydy cyfansoddion ïonig solid ddim yn dargludo trydan oherwydd mae’r ïonau wedi’u dal yn dynn yn eu lle. Dydy’r ïonau ddim yn gallu symud i y . Ond pan mae cyfansoddyn ïonig yn ymdoddi, mae’r ïonau â gwefr yn rhydd i symud. Felly, mae cyfansoddion ïonig tawdd yn dargludo trydan.

Pan mae grisial o gyfansoddyn ïonig yn hydoddi mewn dŵr, mae’r ïonau’n gwahanu. Eto, mae’r ïonau’n rhydd i symud – felly mae hydoddiant o gyfansoddyn ïonig mewn dŵr hefyd yn dargludo trydan.

Dellt ïonig

Mae’r ïonau â gwefrau dirgroes mewn dellten ïonig enfawr yn cael eu dal gan fondiau ïonig cryf (grymoedd atynnu electrostatig) mewn adeiledd tri dimensiwn enfawr.

Edrych ar yr enghraifft hon – dellten grisial sodiwm clorid:

Adeiledd ïonig sodiwm clorid yn ffurfio dellten giwbig

Y ffordd orau o luniadu diagramau fel hwn yw dechrau ag un math o ïon (er enghraifft Na+) a thynnu llinellau o’r ïon hwn i bob ïon cyfagos a rhoi’r math arall o ïon ar ben arall y llinell (er enghraifft Cl). Ddylai’r llinellau byth uno dau ïon sydd yr un fath.

Esbonio ymdoddbwyntiau [Haen uwch yn unig]

Mae angen llawer o egni i oresgyn y grymoedd atyniad electrostatig cryf rhwng ïonau â gwefrau dirgroes, felly mae gan gyfansoddion ïonig ymdoddbwyntiau a berwbwyntiau uchel. Fodd bynnag, mae gan rai ohonyn nhw ymdoddbwyntiau uwch na’i gilydd.

Y mwyaf yw’r ar yr ïonau, y cryfaf yw’r grymoedd sy’n eu dal nhw at ei gilydd. Mae sodiwm clorid wedi’i wneud o ïonau Na+ ac ïonau Cl ac mae ei ymdoddbwynt yn 801°C. Mae magnesiwm ocsid wedi’i wneud o ïonau â dwy wefr (Mg2+ ac O2–) ac felly mae ei ymdoddbwynt o 2,852°C yn llawer uwch.