Moleciwlau cofalent syml
Mae dau brif fath o sylweddau â bond cofalentBond rhwng atomau sy’n ffurfio pan mae atomau’n rhannu electronau i gael plisgyn allanol llawn o electronau.:
- moleciwlau cofalent syml
- adeileddau cofalent enfawr
Dim ond ychydig o atomMae pob elfen wedi'i gwneud o atomau. Mae atom wedi'i wneud o niwclews sy’n cynnwys protonau a niwtronau, wedi'i amgylchynu ag electronau. sydd mewn moleciwlau syml, ac mae bondiau cofalent yn eu dal nhw at ei gilydd. Un enghraifft yw carbon deuocsid (CO2). Yn y moleciwl, mae un atom carbon yn bondio â dau atom ocsigen.
Fodd bynnag, er bod y bondiau cofalent sy’n dal yr atomau at ei gilydd mewn moleciwl syml yn gryf, mae’r grymoedd rhyngfoleciwlaidd rhwng moleciwlau syml yn wan.
Priodweddau sylweddau moleciwlaidd syml
- Ymdoddbwyntiau a berwbwyntiau isel – mae hyn oherwydd nad oes angen llawer o egni i dorri’r grymoedd rhyngfoleciwlaidd gwan.
- Ddim yn dargludoProses sy’n caniatáu i drydan, gwres neu ffurfiau eraill ar egni basio trwodd.trydan – mae hyn oherwydd nad oes dim electronGronyn isatomig yw electron, sydd â gwefr negatif a'i fàs yn ddibwys o'i gymharu â phroton a niwtron. rhydd na gwefr drydanol gyffredinol mewn unrhyw gyflwr mater.
Mae hydrogen, amonia, methan a dŵr pur hefyd yn foleciwlau syml. Mae gan y rhain i gyd fondiau cofalent cryf rhwng atomau, ond grymoedd rhyngfoleciwlaidd llawer gwannach rhwng moleciwlau.
Pan mae un o’r sylweddau hyn yn ymdoddi neu’n berwi, y grymoedd rhyngfoleciwlaidd gwan hyn sy’n torri, nid y bondiau cofalent cryf. Ar dymheredd ystafell, mae sylweddau moleciwlaidd syml yn nwyon, neu’n hylifau neu’n solidau ag ymdoddbwyntiau a berwbwyntiau isel. Maen nhw hefyd yn feddal, eto oherwydd y grymoedd rhyngfoleciwlaidd gwan sy’n hawdd eu torri.
Mae’r lluniau’n dangos sut mae’r grymoedd rhyngfoleciwlaidd gwan rhwng moleciwlau dŵr yn cael eu torri wrth eu berwi neu eu hymdoddi:
1 of 2