BondioBondio ïonig

Pan mae elfen metel yn adweithio ag elfen anfetel, mae'n ffurfio cyfansoddyn ïonig. Pan mae elfen anfetel yn adweithio ag elefen anfetel, mae’n ffurfio cyfansoddyn cofalent. Drwy ddeall sut mae'r elfennau'n bondio, gallwn ni esbonio eu priodweddau nodweddiadol.

Part ofCemegBondio, adeiledd a phriodweddau

Bondio ïonig

Pan mae metelau’n adweithio ag anfetelau, mae yn cael eu trosglwyddo o’r atomau metel i’r atomau anfetel, gan ffurfio ïonau. Enw’r math hwn o gyfansoddyn yw cyfansoddyn ïonig.

Mae adweithiau rhwng metelau ac anfetelau’n cynnwys:

  • sodiwm + clorin → sodiwm clorid
  • magnesiwm + ocsigen → magnesiwm ocsid
  • calsiwm + clorin → calsiwm clorid
  • lithiwm + ocsigen → lithiwm ocsid

Yn yr adweithiau hyn i gyd, mae’r atomau metel yn rhoi electronau i’r atomau anfetel. Mae’r atomau metel yn troi’n ïonau positif ac mae’r atomau anfetel yn troi’n ïonau negatif.

Mae grym atyniad rhwng ïonau â gwefrau dirgroes – bond ïonig yw hyn.

Mae’r sioe sleidiau’n dangos bondiau ïonig yn ffurfio mewn sodiwm clorid, magnesiwm ocsid, calsiwm clorid a lithiwm clorid.

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 8, Atom sodiwm ag 11 electron dot ac atom clorin ag 17 electron croes.,