Moleciwlau sy’n cynnwys bondiau dwbl [Haen uwch yn unig]
Mae gan rai moleciwlau fond dwbl neu fond triphlyg. Mae’r math yma o fond yn digwydd pan fydd mwy nag un pâr o electronau yn cael eu rhannu rhwng yr atomau er mwyn ffurfio plisgyn allanol llawn (bond dwbl – 2 bâr o electronau, bond triphlyg – 3 phâr o electronau).
Un enghraifft yw carbon deuocsid.
Image caption, 1. Un atom carbon â phedwar electron croes, a dau atom ocsigen â chwech electron dot
Image caption, 2. Mae’r ddau atom ocsigen wedi bondio â’r atom carbon i ffurfio carbon deuocsid. Maen nhw’n rhannu dau grŵp o electronau, ac mae dau ddot a dwy groes ym mhob grŵp.
1 of 2
End of image gallery
Mae modd cynrychioli hwn fel O=C=O.