BondioBondio cofalent

Pan mae elfen metel yn adweithio ag elfen anfetel, mae'n ffurfio cyfansoddyn ïonig. Pan mae elfen anfetel yn adweithio ag elefen anfetel, mae’n ffurfio cyfansoddyn cofalent. Drwy ddeall sut mae'r elfennau'n bondio, gallwn ni esbonio eu priodweddau nodweddiadol.

Part ofCemegBondio, adeiledd a phriodweddau

Bondio cofalent

Mae bond cofalent yn ffurfio pan mae dau anfetel yn rhannu pâr o . Mae’r electronau hyn yn y plisg allanol o gwmpas yr atomau. Bydd atom sy’n rhannu un neu fwy o’i electronau’n llenwi ei blisgyn allanol.

Mae bondiau cofalent yn gryf – mae angen llawer o egni i’w torri nhw. Mae sylweddau â bondiau cofalent yn aml yn ffurfio ag ymdoddbwyntiau a berwbwyntiau isel, fel hydrogen a dŵr. Mae gan y sylweddau hyn fondiau cofalent cryf tu mewn i’r moleciwlau (rhwng yr atomau), ond grymoedd rhyngfoleciwlaidd gwan rhwng y moleciwlau. Mae hyn yn golygu mai dim ond ychydig bach o egni gwres sydd ei angen i wahanu’r moleciwlau oddi wrth ei gilydd.

Diagram yn dangos y grymoedd atynnu gwan iawn rhwng moleciwlau, a'r bondiau cofalent cryf y tu mewn i foleciwlau amonia.

Mae’r sioe sleidiau’n dangos bond cofalent yn ffurfio rhwng atom hydrogen ac atom clorin, i ffurfio hydrogen clorid.

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 2, Atom hydrogen ag un electron ac atom clorin ag 17 electron., 1. Atom hydrogen ag un electron ac atom clorin ag 17 electron

Ar ôl bondio, mae’r atom clorin nawr mewn cysylltiad ag wyth electron yn ei blisgyn allanol, felly mae’n . Mae’r atom hydrogen nawr mewn cysylltiad â dau electron yn ei blisgyn allanol, felly mae hwn hefyd yn sefydlog.

Mae’r ddau yn cael eu hatynnu’n gryf at y pâr o electronau sy’n cael ei rannu yn y bond cofalent, felly mae bondiau cofalent yn gryf iawn ac mae angen llawer o egni i’w torri nhw.

Faint o fondiau?

Mae atomau’n gallu ffurfio mwy nag un bond cofalent – yn hytrach na rhannu un pâr o electronau, maen nhw’n rhannu dau neu fwy o barau. Bydd atomau o wahanol yn ffurfio naill ai un, dau, tri neu bedwar bond cofalent ag atomau eraill.

Mae yna ffordd gyflym o gyfrifo faint o fondiau cofalent bydd elfen yn eu ffurfio.

Mae’r tabl yn rhoi mwy o fanylion am y rheol.

ElfenNifer y bondiau
Grŵp 4Carbon8 – 4 = 4
Grŵp 5Nitrogen8 – 5 = 3
Grŵp 6Ocsigen8 – 6 = 2
Grŵp 7Clorin8 – 7 = 1
Grŵp 4
ElfenCarbon
Nifer y bondiau8 – 4 = 4
Grŵp 5
ElfenNitrogen
Nifer y bondiau8 – 5 = 3
Grŵp 6
ElfenOcsigen
Nifer y bondiau8 – 6 = 2
Grŵp 7
ElfenClorin
Nifer y bondiau8 – 7 = 1

Mae hydrogen yn ffurfio un bond cofalent. Dydy’r nwyon nobl yn Grŵp 0 ddim yn ffurfio dim.