Bondio metelig ac adeiledd metelau
Metelau
Mae'r rhan fwyaf o fetelau’n hydrin – hynny yw, mae modd eu plygu a’u siapio nhw heb iddyn nhw dorri. Mae hyn am eu bod nhw wedi’u gwneud o haenau o ïonau sy’n gallu llithro dros ei gilydd pan mae’r metel yn cael ei blygu, ei forthwylio neu ei wasgu. Gan fod yr ïonau’n llithro dros ei gilydd, mae metelau’n hydwyth – hynny yw, mae modd eu tynnu nhw’n wifrau – sy’n eu gwneud nhw’n addas ar gyfer ceblau trydan.
Bondiau metelig
Mae metelau’n ffurfio adeileddau enfawr lle mae’r electronGronyn isatomig yw electron, sydd â gwefr negatif a'i fàs yn ddibwys o'i gymharu â phroton a niwtron. ym mhlisg allanol yr atomau metel yn rhydd i symud. Y grym atyniad rhwng yr electronau rhydd (dadleoledigElectron sydd ddim yn gysylltiedig ag atom penodol, er enghraifft mae’r electronau allanol mewn metel yn gallu bod yn rhydd i symud drwy’r solid.) hyn a’r ïonGronyn sy’n cael ei wefru’n drydanol, sy’n cael ei ffurfio pan mae moleciwl neu atom yn ennill neu'n colli electron(au). metel positif sy’n gwneud y bond metelig. Mae bondiau metelig yn gryf, felly mae metelau’n gallu cynnal adeiledd rheolaidd ac fel arfer mae ganddyn nhw ymdoddbwyntiau a berwbwyntiau uchel.
Mae metelau’n dargludyddDefnydd sy’n caniatáu i wefr symud drwyddo’n rhwydd. da ar gyfer trydan a gwres. Mae hyn oherwydd bod yr electronau dadleoledig yn gallu symud drwy’r metel i gyd.
[Haen uwch yn unig]
Y mwyaf yw nifer yr electronau allanol yn y metel, yr uchaf yw ei ymdoddbwynt/berwbwynt. Mae hyn oherwydd bod mwy o wefr bositif ar yr ïon metel a nifer mwy o electronau wedi’u dadleoli, sy’n gwneud y bondio’n gryfach.