Nanogwyddoniaeth a defnyddiau clyfarProblemau â gronynnau nano-raddfa [Uwch]

Mae defnyddio gronynnau nano-raddfa'n dal i fod yn beth cymharol newydd, a does neb yn hollol siŵr beth fydd eu heffaith hirdymor ar iechyd a'r amgylchedd. Mae defnyddiau clyfar yn cynnwys pigmentau thermocromig, polymerau ac aloion sy'n cofio siâp a hydrogeliau.

Part ofCemegBondio, adeiledd a phriodweddau

Problemau â gronynnau nano-raddfa [Haen uwch yn unig]

Mae defnyddio gronynau nano-raddfa’n beth cymharol newydd, felly dydyn ni ddim yn siŵr beth fydd effaith hirdymor eu defnyddio nhw ar ein hiechyd nac ar yr amgylchedd.

Mae’r gronynnau hyn mor fach, maen nhw’n gallu mynd drwy ein croen yn rhwydd ac i mewn i lif y gwaed. Mae hyd yn oed yn bosibl eu bod nhw’n ddigon bach i fynd i mewn i’n celloedd neu i gelloedd organebau eraill, a dydyn ni ddim yn gwybod beth allai ddigwydd i’r celloedd.

Maen nhw hefyd yn gallu mynd i mewn i’r amgylchedd yn hawdd iawn, ac efallai y bydden nhw’n gallu niweidio planhigion ac anifeiliaid.

Mae defnyddio arian nano-raddfa mewn dillad yn enghraifft dda o hyn. Rydyn ni’n defnyddio’r nano-arian i ladd bacteria sy’n achosi arogleuon drwg. Fodd bynnag, mae’r gronynnau nano-raddfa’n gallu mynd i mewn i’r dŵr wrth i ni olchi’r dillad, ac i mewn i’r amgylchedd. Oherwydd eu priodweddau gwrthfacteriol, gallen nhw achosi llawer o niwed i facteria yn yr ecosystem dros gyfnod hir. Fodd bynnag, does dim tystiolaeth bod defnyddio gronynnau nano-raddfa dros gyfnod byr yn cael unrhyw effaith anffafriol.

More guides on this topic