MesurauBuanedd, pellter ac amser

Cyn mesur rhywbeth, mae angen gwybod pa uned i’w defnyddio. Gelli di wneud hyn drwy amcangyfrif ei faint yn fras. Wrth drosi rhwng unedau, mae rhai rheolau syml y dylet ti eu dilyn.

Part ofMathemategMesurau

Buanedd, pellter ac amser

Rydyn ni’n canfod buanedd cyfartalog (sydd yn aml yn cael ei gyfeirio ato fel ‘buanedd’) trwy rannu’r pellter a deithiwyd â’r amser a gymerwyd:

\({Buanedd}=\frac{Pellter}{Amser}\)

Question

Os wyt ti’n teithio \({70}~km\) mewn \({2}\) awr, beth ydy dy fuanedd cyfartalog?

Mae’r pellter mewn cilometrau (\({km}\)) a’r amser mewn oriau (\({h}\)), felly \({km/h}\) ydy’r unedau buanedd.

Os wyt ti’n gwybod y buanedd cyfartalog, gelli di ganfod yr amser neu’r pellter drwy ad-drefnu’r hafaliad.

\({Buanedd} = {Pellter}\div{Amser}\)

\({Pellter} = {Buanedd}\times{Amser}\)

\({Amser} = {Pellter}\div{Buanedd}\)

Mae'r triongl isod yn ffordd dda o gofio'r hafaliadau:

Diagram i ddangos y berthynas rhwng buanedd, pellter ac amser

Question

Os wyt ti’n cerdded am \({1}\frac{1}{2}\) awr ar fuanedd cyfartalog o \({4}\) milltir yr awr, pa mor bell fyddi di wedi cerdded?