MesurauUnedau Imperial

Cyn mesur rhywbeth, mae angen gwybod pa uned i’w defnyddio. Gelli di wneud hyn drwy amcangyfrif ei faint yn fras. Wrth drosi rhwng unedau, mae rhai rheolau syml y dylet ti eu dilyn.

Part ofMathemategMesurau

Unedau Imperial

Ym Mhrydain mae unedau traddodiadol yn dal yn gyffredin iawn. Mae’r rhain yn cael eu galw'n unedau Imperial, ac maen nhw’n cynnwys:

Mesur hyd – modfedd, troedfedd, llathen, milltir. Yn fras, dyma sut mae nhw’n cymharu gyda’r unedau metrig:

  • \({1~fodfedd} = {1}\)" \(\approx{2.5}~cm\)
  • \({1~droedfedd} = {1}\)' = \({12}\)" \(~\approx{30}~cm\)
  • \({1~lathen} = {3}\)' = \({36}\)" \(~\approx{0.9}~m\) (sef ychydig llai nag \({1}~m\))
  • \({1~filltir} = {1760~llathen}\approx{1.6}~km\)(neu \({8}~km\approx{5~milltir})\)

Cofia mai ystyr \(\approx\) ydy ‘tua’.

Question

Defnyddia’r wybodaeth hon i amcangyfrif:

a) \({8}\)" mewn \({cm}\)

b) \({2}\)'\({6}\)" mewn \({cm}\)

c) \({100}~{m}\) mewn \({llathenni}\)

ch) \({20}~km\) mewn \({milltiroedd}\)