Darllen graddfeydd
Graddfa 1
Ar y raddfa hon y gwahaniaeth rhwng \({5}\) a \({6}\) ydy \({1}\). Ac mae’r gofod wedi ei rannu’n \({4}\), felly mae pob rhaniad yn cynrychioli \({1}\div{4} = {0.25}\).
Mae’r saeth yn pwyntio at \({5} + {0.25} + {0.25} + {0.25} = {5.75}\).
Graddfa 2 - sbidomedr
Y gwahaniaeth rhwng \({50}\) a \({60}\) ydy \({10}\) ac mae’r gofod wedi ei rannu’n \({5}\). Felly mae pob rhaniad yn cynrychioli \({10}\div{5} = {2}\).
Mae’r saeth yn pwyntio at \({50} + {2} + {2} = {54}\).