MesurauTrosi rhwng unedau

Cyn mesur rhywbeth, mae angen gwybod pa uned i’w defnyddio. Gelli di wneud hyn drwy amcangyfrif ei faint yn fras. Wrth drosi rhwng unedau, mae rhai rheolau syml y dylet ti eu dilyn.

Part ofMathemategMesurau

Trosi rhwng unedau

Mae’r tabl yn dangos rhai o’r unedau mwyaf cyffredin a’u cywerthoedd. Gwna’n siŵr dy fod yn gwybod y trosiadau hyn.

Trosi mesuriadau
Hyd\({1}~{km} = {1,000}~{m}\)\({1}~{m} = {100}~{cm}\)\({1}~{cm} = {10}~{mm}\)
Pwysau\({1~tunnell} = {1,000}~{kg}\)\({1}~{kg} = {1,000}~{g}\)\({1}~{g} = {1,000}~{mg}\)
Cynhwysedd\({1}~{l} = {100}~{cl}\)\({1}~{cl} = {10}~{ml}\)
Trosi mesuriadau
Hyd
\({1}~{km} = {1,000}~{m}\)
\({1}~{m} = {100}~{cm}\)
\({1}~{cm} = {10}~{mm}\)
Pwysau
\({1~tunnell} = {1,000}~{kg}\)
\({1}~{kg} = {1,000}~{g}\)
\({1}~{g} = {1,000}~{mg}\)
Cynhwysedd
\({1}~{l} = {100}~{cl}\)
\({1}~{cl} = {10}~{ml}\)

Trosi unedau mwy yn unedau llai

I drosi uned fwy’n uned lai (ee \({m}\) i \({cm}\)) dylet ti wirio yn gyntaf sawl uned lai sydd ei hangen i wneud \({1}\) uned fwy. Wedyn, lluosa’r rhif hwnnw â nifer yr unedau mwy.

Trosi unedau llai yn unedau mwy

I drosi uned lai’n uned fwy (ee \({cm}\) i \({m}\)), dylet ti ei rhannu â nifer yr unedau llai sydd eu hangen i wneud \({1}\) uned fwy.

Enghraifft

\({1}~{m} = {100}~{cm}\)

Felly, i drosi o \({m}\) i \({cm}\) lluosa â \({100}\), ac i drosi o \({cm}\) i \({m}\) rhanna â \({100.}\)

Er enghraifft:

\({3.2}~{m} = {320}~{cm}\) (\({3.2}\times{100} = {320}\))

\({400}~{cm} = {4}~{m}\) (\({400}\times{100} = {4}\))

Question

Trosa’r canlynol i’r unedau sydd mewn cromfachau:

a) \({5,120}~{g}\) (\({kg}\))

b) \({15}~{cl}\) (\({ml}\))

c) \({245}~{mm}\) (\({m}\))