Datblygiadau yn iechyd a lles y cyhoeddDatblygiadau yn ystod yr 20fed ganrif

Mae iechyd a lles y cyhoedd wedi datblygu dros y canrifoedd ac mae hynny wedi arwain at welliannau mewn iechyd a disgwyliad oes. Pa mor effeithiol oedd ymdrechion i wella iechyd a lles y cyhoedd dros y blynyddoedd?

Part ofHanesNewidiadau ym maes iechyd a meddygaeth, tua 1340 hyd heddiw

Datblygiadau yn ystod yr 20fed ganrif

Digwyddodd mwy o welliannau a newidiadau cyflymach yn ystod yr 20fed ganrif nag erioed o’r blaen mewn perthynas ag iechyd y cyhoedd. Rhwng 1906 a 1914 digwyddodd newid cymdeithasol anferthol. Trodd y Llywodraethau Rhyddfrydol eu cefnau ar syniadau a phenderfynu bod gan y wladwriaeth rôl i’w chwarae o ran gwella iechyd y cyhoedd.

Roedd y penderfyniad yma yn ganlyniad i nifer o ddigwyddiadau oedd yn amlygu’r ffaith bod afiechyd yn parhau i fod yn broblem ddifrifol mewn llawer o ardaloedd ym Mhrydain.

  • Dangosodd adroddiad yn 1889 gan Charles Booth bod 35 y cant o drigolion Llundain yn byw mewn tlodi difrifol.
  • Fe wnaeth adroddiad arall, yn 1901 gan Seebohm Rowntree, ganfod bod hanner poblogaeth Efrog yn byw mewn tlodi.
  • Yn ystod Rhyfel y Boer 1899-1902 gwrthodwyd traean o’r rhai a wirfoddolodd i ymladd oherwydd nad oedd eu hiechyd yn ddigon da.

Pan ddaeth y Llywodraeth Ryddfrydol i rym yn 1906, fe wnaethon nhw gyflwyno ystod o ddiwygiadau cymdeithasol a ddyluniwyd i frwydro yn erbyn tlodi ac aflendid. Yn ogystal â’r Ddeddf Yswiriant Cenedlaethol, cyflwynodd y Rhyddfrydwyr fesurau eraill.

BlwyddynMesur
1906Roedd cinio ysgol am ddim i blant o deuluoedd tlawd yn golygu bod plant yn cael un pryd da o fywyd bob dydd.
1907Roedd ymweliadau meddygol ag ysgolion yn golygu y gallai ymwelwyr iechyd gadw llygaid ar iechyd plant.
1908Golygodd Deddf Pensiwn Henoed nad oedd rhaid i bobl ofni henaint.
1909Roedd lleiafswm cyflog mewn diwydiannau penodol yn golygu bod nifer o weithwyr tlawd yn derbyn cyflog byw.
Blwyddyn1906
MesurRoedd cinio ysgol am ddim i blant o deuluoedd tlawd yn golygu bod plant yn cael un pryd da o fywyd bob dydd.
Blwyddyn1907
MesurRoedd ymweliadau meddygol ag ysgolion yn golygu y gallai ymwelwyr iechyd gadw llygaid ar iechyd plant.
Blwyddyn1908
MesurGolygodd Deddf Pensiwn Henoed nad oedd rhaid i bobl ofni henaint.
Blwyddyn1909
MesurRoedd lleiafswm cyflog mewn diwydiannau penodol yn golygu bod nifer o weithwyr tlawd yn derbyn cyflog byw.

Yng nghyllideb 1909, cododd Lloyd George drethi ar y cyfoethog (plwtocratiaid) er mwyn helpu i dalu am ddiwygiadau cymdeithasol y Rhyddfrydwyr.

Cartŵn o David Lloyd George wedi gwisgo fel lleidr pen ffordd, yn dal gwn, ceffyl a bocs gyda'r label 'Old-Age Pension Fund'. Testun ar hyd y gwaelod yn darllen 'The Philanthropic Highwayman'.
Figure caption,
Cartŵn o 1909 gyda Lloyd George fel "lleidr pen ffordd dyngarol". Fe'i darlunnir yn cymryd arian oddi wrth y cyfoethog, nid iddo’i hun, ond er mwyn helpu i dalu am bensiwn henoed

Ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, addawodd David Lloyd George, oedd yn brif weinidog erbyn hynny, y byddai’n creu gwlad oedd yn addas i arwyr fyw ynddi. Yn 1919, cyhoeddwyd cynlluniau yn y Ddeddf Tai newydd i adeiladu 500,000 o gartrefi newydd o fewn tair blynedd.

Oherwydd problemau economaidd dim ond 200,000 a adeiladwyd. Ond, am y tro cyntaf erioed, roedd gan nifer o’r rhai a adeiladwyd drydan, cyflenwad dŵr, ystafelloedd ymolchi, toiledau tu mewn a gerddi. Erbyn 1939 roedd miliwn o dai cyngor wedi’u hadeiladu ar draws Prydain.

Yn dilyn difrod yr Ail Ryfel Byd sicrhaodd y Llywodraeth Lafur bod un filiwn o dai cyngor ychwanegol wedi cael eu hadeiladu rhwng 1945 a 1951. Roedd problem tai gwael yn parhau. Ers y 1960au cynhaliwyd arolygon yng Nghymru er mwyn asesu cyflwr y stoc tai. Yn 1968, roedd 10 y cant o’n tai yn anaddas i bobl fyw ynddyn nhw. Er bod grantiau gwella a thai newydd wedi gostwng y ganran hon, mae gan Gymry dal fwy o dai anaddas na Lloegr.

Cafwyd ymdrechion eraill gan y Llywodraeth i wella iechyd y cyhoedd.

Lladdwyd tua 12,000 o bobl yn Llundain yn sgil marwol yn 1952. Roedd hynny’n amlygu ansawdd gwael yr aer mewn nifer o rannau o Brydain. O ganlyniad i hynny roedd Deddfau Aer Glân 1956 a 1968 yn amcanu at leihau llygriad aer oedd yn deillio o dannau glo.

Yn fwy diweddar pasiwyd deddfau er mwyn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, ee carbon deuocsid a methan.

Yn y 1960au, bu ymgyrch sylweddol i glirio hofelau. Yn aml, codwyd tyrrau o fflatiau ble’r oedd yr hofelau’n arfer bod. Symudwyd rhai pobl i drefi newydd, ee Milton Keynes, a adeiladwyd er mwyn symud pobl allan o hen drefi diwydiannol budr a gorlawn. Roedd cyfleusterau modern yn y tai, ac roedd digon o fannau gwyrdd yn y trefi ar gyfer defnydd cyhoeddus.

Hefyd, creodd Llywodraeth Lafur 1945-1951 y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 1948. Yn ogystal â rhedeg ysbytai a chanolfannau iechyd lleol, mae’r GIG yn hyrwyddo iechyd y cyhoedd drwy amryw o weithgareddau.

  • Mae gweithwyr iechyd yn mynd i ysgolion i siarad â’r myfyrwyr, ee er mwyn rhoi brechiadau a siarad am addysg rhyw.
  • Mae ymwelwyr iechyd yn ymweld â mamau newydd er mwyn rhoi cymorth a chyngor ar ofal plant.
  • Cynhaliwyd pob math o ymgyrchoedd er mwyn hyrwyddo ffyrdd o fyw iachach, megis rhoi’r gorau i ysmygu (Byddwch yn ddi-fwg), bwyta’n iach (Newid am Oes a 5-y-dydd) ac ymarfer corff (Cerdded dros Iechyd).
  • Mae ymgyrchoedd eraill wedi annog hylendid personol, ee brwsio dannedd yn rheolaidd, chwilio am chwain, fel ffyrdd o gael gwell iechyd.
Poster o ddyn defnyddio hances i chwythu ei drwyn, a'r testun: A handkerchief in time saves nine and helps to keep the nation fighting fit. Coughs and Sneezes spread diseases.
Image caption,
Poster o’r 1940au yn annog y cyhoedd i ddefnyddio hances wrth disian

Cronfeydd Dŵr yng Nghymru

Bu dadlau mawr am golli neu symud cymunedau amaethyddol Cymraeg eu hiaith rhwng 1880 a'r 1960au, pan lenwyd cymoedd gyda dŵr er mwyn darparu dŵr yfed i Lerpwl a Chanolbarth Lloegr.

Llyn Efyrnwy

Roedd Corfforaeth Lerpwl eisiau gwella ei chyflenwad o ddŵr, felly, rhwng 1881 ac 1888, adeiladwyd yr argae cerrig mwyaf ym Mhrydain yng ngogledd Cymru, yng Nghwm Efyrnwy, i gyflenwi dŵr ffres i Lerpwl.

Cronfeydd Cwm Elan

Trefnodd Corfforaeth Birmingham i gronfa ddŵr gael ei chodi yng Nghwm Elan i’r gorllewin o dref Rhaeadr yng nghanolbarth Cymru, i sicrhau dŵr yfed glân i Ganolbarth Lloegr.

Symudwyd mwy na chant o drigolion y cwm yng Nghymru o’u cartrefi ond dim ond y perchnogion tir dderbyniodd iawndal. Cafodd y gronfa ei hagor yn swyddogol gan y Brenin Edward VII a’r Frenhines Alexandra ar 21 Gorffennaf 1904. Mae’r cynllun yn dal i gyflenwi dŵr i Birmingham.

Llyn Celyn

Yn 1955, dewisodd Corfforaeth Lerpwl safle Tryweryn i’r gogledd o’r Bala ar gyfer cronfa ddŵr newydd i roi cyflenwad dŵr iddynt.

Roedd hon yn gymuned Gymraeg ei hiaith o 12 o ffermydd, ysgol, capel a swyddfa bost. Er gwaetha'r protestio mawr a fu, ar 1 Awst 1957, pasiwyd Deddf Corfforaeth Lerpwl a boddwyd y pentref er mwyn creu cronfa ddŵr.

Gwelliannau i ddisgwyliad oes

Yn ystod yr 20fed a’r 21ain ganrif, mae datblygiadau sylweddol wedi digwydd o ran iechyd y cyhoedd a hylendid. Mae wedi codi yn gyflymach nag yn ystod unrhyw ganrif arall, o lai na 50 yn 1900 i dros 80 heddiw. Mewn geiriau eraill, yn ystod yr 20fed ganrif, am bob degawd a aeth heibio, roedd disgwyliad oes yn codi ddwy flynedd a hanner.

Ond mae’r ystadegau yma yn cuddio gwahaniaethau mawr yn y DU. Nododd adroddiad gan GIG Cymru yn 2011:

Gall dynion yng nghymunedau lleiaf difreintiedig Cymru ddisgwyl byw mewn iechyd da am 19 mlynedd yn hirach na’r rhai yn ardaloedd mwyaf difreintiedig y wlad. Yn yr un modd, mae’r gwahaniaeth ar gyfer merched yn 18 mlynedd... Mae’r adroddiad hwn yn dangos bod pobl yn ardaloedd tlotaf Cymru nid yn unig yn marw’n gynharach, ond yn treulio mwy o’u hoes fyrrach mewn iechyd salach.
GIG Cymru

Er gwaetha’r datblygiadau mawr yn ystod y ganrif ddiwethaf, mae problemau mawr yn parhau. Wrth i Brydain gyfoethogi mae diet nifer o bobl wedi dod yn llai iach, a bu cynnydd anferth mewn achosion o ordewdra a chlefydau’n gysylltiedig â hynny, ee diabetes.

Er gwaethaf nifer o ymgyrchoedd iechyd, mae llawer o bobl yn dal i ysmygu, yn yfed gormod o alcohol ac yn methu â chael digon o ymarfer corff. Mae tlodi a thai gwael, er nad yw hynny cyn waethed ag yr oedd yn ystod canrifoedd blaenorol, yn parhau i effeithio’n ddrwg ar iechyd y cyhoedd hefyd.