Effeithiau diwydiannu
Roedd diwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif yn gyfnod o Chwyldro Diwydiannol. Ymfudodd niferoedd anferth o bobl i’r trefi a’r dinasoedd diwydiannol newydd, ac roedden nhw’n cael eu denu gan y gobaith o gael gwell cyflogau. Ond wrth i’r trefi dyfu’n gyflym, roedden nhw’n gorlenwi

Roedd amodau byw i deuluoedd yn dirywio ac mae’n debyg bod disgwyliad oes wedi gostwng. Agwedd y Llywodraeth oedd laissez-faireWedi’i gyfieithu fel ‘gadael llonydd i rywbeth’ neu ‘gadewch i’r bobl ddewis’. Polisi’r llywodraeth o ymyrryd cyn lleied â phosibl ar yr economi. . Nid oedden nhw'n credu mai eu lle nhw oedd pasio deddfau ynghylch pethau megis tai, carthffosiaeth a chyflenwad dŵr, na cheisio rheoleiddio amodau gwaith.
Yng Nghymru, roedd Merthyr Tudful yn enghraifft o bopeth oedd yn wael am drefi diwydiannol. O bentref o 40 o dai yn unig yn 1760, tyfodd i fod yn dref â 8,000 o drigolion erbyn 1801. Hon oedd tref fwyaf Cymru erbyn 1851 yn gartref i 46,000 o bobl, ond dim ond 25 y cant ohonyn nhw oedd wedi eu geni yno.
Defnyddiai’r diwydiant haearn ddŵr o Afon Taf i yrru olwynion ei ffwrneisi mawr. Wedyn roedd y dŵr yn pasio drwy’r pyllau amrywiol cyn dod yn ôl, yn ddu a budr iawn, i’r afon unwaith eto.
Roedd y twf cyflym yma’n arwain at broblemau mawr mewn perthynas ag iechyd cyhoeddus. Roedd yna lawer o orlenwi tai o ansawdd gwael ac amodau afiach, oedd yn golygu bod y dref yn fagwrfa i glefydau megis colera, teiffws a TB.
Rhwng 1846 a 1855, roedd cyfradd y marwolaethau o bob achos ym Merthyr yn 332 am bob 10,000 o drigolion. Roedd y siawns i blant ifanc oroesi’n wael ac roedd disgwyl i ddau o bob pum plentyn a aned yn ystod y blynyddoedd rhwng 1848 a 1853 farw cyn bod yn bum mlwydd oed, gyda llawer yn marw cyn cyrraedd eu pen-blwydd cyntaf.
Roedd amodau gwaith gwael hefyd yn effeithio ar y trigolion, yn ogystal â’r llygredd o’r gwaith dur. Roedd yna gymaint o enw drwg i Ferthyr Tudful fel bod curad ifanc (cynorthwyydd i offeiriad) yn un o nofelau Anthony Trollope yn llewygu pan mae’n clywed ei fod yn cael ei anfon i Ferthyr Tudful.
'China'
Yr ardal waethaf ym Merthyr Tudful oedd yr hofel a alwyd yn 'China' - a elwid hefyd yn "Uffern Bach". Roedd yr amodau byw i’r 1,500 o drigolion gyda’r gwaethaf ym Mhrydain. Roedd yr hofel yn cynnwys strydoedd cul, wedi eu hawyru’n wael ac yn llawn o dai gorlawn.
Yn ei adroddiad am gyflwr Bryste, Caerfaddon, Ffraw, Abertawe, Merthyr Tudful ac Aberhonddu yn 1845, nododd Syr Henry de la Beche, oherwydd nad oedd toiledau tŷ bachToiled mewn sied fach y tu allan i dŷ neu adeilad arall. ym Merthyr Tudful, bod y trigolion yn taflu eu carthion i’r strydoedd, oedd yn debyg i garthffosydd agored. Roedd y trigolion tlotaf yn yr hofel yn byw mewn seleri, o dan yr amodau byw gwaethaf un.
Erbyn y 1840au, ym Merthyr Tudful oedd y cyfradd marwolaethauNifer y marwolaethau mewn man (neu grŵp) o’i gymharu â chyfanswm y bobl yn y fan honno (neu grŵp). uchaf o holl drefi Cymru, a’r drydedd uchaf yn y DU. Roedd plant ifanc yn arbennig mewn perygl o ddal clefydau. Yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif roedd dros 60 y cant o’r holl gladdedigaethau ym Merthyr Tudful yn blant o dan bump oed.
Diffyg tosturi gan y cyfoethog
Yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif, ychydig iawn o dosturi a ddangoswyd tuag at y tlodion. Nid oedd y Llywodraeth yn credu mai eu cyfrifoldeb nhw oedd amodau byw ac amodau gwaith. Roedd nifer o’r bobl gyfoethog yn credu mai’r tlodion eu hunain oedd i’w beio am eu hamodau byw.
Y cyfoethog oedd yn cael pleidleisio, a’u safbwyntiau nhw oedd yn dylanwadu ar y Llywodraeth. Gallen nhw fforddio pobl megis dyn baw’r nosDyn oedd yn gweithio drwy’r nos er mwyn cael gwared â chynnwys potiau siambr (toiledau symudol) o drefi Prydain. ac nid oedden nhw eisiau talu mwy o drethi er mwyn darparu gwell amodau byw i’r tlawd.
