Datblygiadau yn iechyd a lles y cyhoeddDiwedd y 19eg ganrif

Mae iechyd a lles y cyhoedd wedi datblygu dros y canrifoedd ac mae hynny wedi arwain at welliannau mewn iechyd a disgwyliad oes. Pa mor effeithiol oedd ymdrechion i wella iechyd a lles y cyhoedd dros y blynyddoedd?

Part ofHanesNewidiadau ym maes iechyd a meddygaeth, tua 1340 hyd heddiw

Diwedd y 19eg ganrif

Edwin Chadwick

Yn y 1840au dechreuodd agweddau newid. Roedd Edwin Chadwick yn was sifil a gyflogwyd gan . Gofynnodd y senedd iddo ymchwilio i amodau byw ym Mhrydain.

Yn ei adroddiad, Report on the Sanitary Conditions of the Labouring Population daeth Chadwick i'r casgliad bod llawer o’r tlodi a’r salwch yn cael ei achosi gan amodau byw erchyll ac nid o ganlyniad i ddiogi. Ysgwyddodd hyn y farn gyhoeddus.

Roedd yr ystadegau yn yr adroddiad yn dangos pa mor afiach oedd y trefi a’r dinasoedd diwydiannol, hyd yn oed i’r trigolion mwy cyfoethog.

Graff yn dangos oed cyfartalog marwolaethau gwahanol fathau o bobl (y bonedd a’r bobl broffesiynol, crefftwyr a ffermwyr, labrwyr) mewn dau leoliad gwahanol: Manceinion (dinesig) a Rutland (gwledig).

Daeth Chadwick i’r casgliad bod angen tri pheth er mwyn gwella iechyd:

  • cael gwared ag ysbwriel
  • system garthffosiaeth effeithiol a chyflenwad dŵr glân i bob tŷ
  • swyddog meddygol cymwys ym mhob ardal

Am rai blynyddoedd ychydig iawn a ddigwyddodd. Gwrthwynebodd nifer o ASau adroddiad Chadwick yn chwyrn, ac fe’u galwyd yn Blaid Fudr. Roedd argymhellion Chadwick yn golygu y byddai’n rhaid i gynghorau godi a byddai hynny yn amhoblogaidd ymysg y dinasyddion mwyaf cyfoethog. Epidemig colera 1848 arweiniodd at newid meddwl gan y Llywodraeth.

Pan ledodd colera yn ystod 1848/49, bu farw mwy na 3,000 o bobl yn sir Forgannwg. Roedd o leiaf 350 o farwolaethau yng Nghaerdydd a 1,389 ym Merthyr Tudful o golera.

Deddf Iechyd y Cyhoedd 1848 a sefydlodd y Bwrdd Iechyd - y tro cyntaf i’r Llywodraeth ddeddfu ar faterion iechyd. Cafodd awdurdodau lleol bwerau i benodi swyddog iechyd, oedd yn gorfod bod yn ymarferydd meddygol wedi cymhwyso’n gyfreithiol, a gwella glanweithdra yn eu hardal, ee casglu ysbwriel, adeiladu carthffosydd a darparu cyflenwad dŵr glân.

Dr John Snow

Yn 1854, tarodd colera unwaith eto. Yn Llundain, astudiodd Dr John Snow lledaeniad colera yn ardal Broad Street. Sylwodd bod pob un o’r dioddefwyr wedi yfed dŵr o’r pwmp ar y stryd. Perswadiodd y swyddogion lleol i atal pobl rhag defnyddio’r pwmp a gostyngodd nifer yr achosion o golera yn gyflym.

Drwy arsylwi, roedd Snow wedi dangos y cysylltiad rhwng dŵr gwael a colera - roedd dŵr Broad Street wedi cael ei bwmpio o’r Tafwys. Petai gan bobl ddŵr glân byddai nifer yr achosion o ddal y clefyd yn gostwng.

Ffigwr blêr yr olwg yn dod i'r golwg ar lannau’r Tafwys gan gyflwyno tri o blant sâl iawn yr olwg i fenyw. Mae’r testun yn darllen Y Tad Thames yn cyflwyno ei blant i Ddinas Deg Llundain.
Image caption,
Cartŵn o gyfnod Drewdod Mawr 1858, o’r enw Y Tad Tafwys yn cyflwyno ei blant i ddinas deg Llundain. Ei dri o ‘blant’ yw difftheria, mandwyn a colera.

Yn 1858, roedd y yn effeithio ar Lundain. Yn fuan ar ôl hynny dechreuodd gwaith ar system garthffosiaeth Llundain. Erbyn iddi gael ei chwblhau, gosodwyd 13,000 milltir o bibellau, o dan gyfarwyddyd Joseph Bazalgette, y prif beiriannydd. Ond dim ond ychydig o gynghorau a ddilynodd esiampl Llundain. Erbyn 1872, dim ond 50 o gynghorau oedd â Swyddogion Meddygol dros Iechyd. Costau anferth gwneud gwelliannau oedd y prif rwystr.

Byrddau Iechyd yng Nghymru 1848–1875

Rhwng 1848 a 1875, cyflwynodd 17 o drefi yn ne Cymru ddeiseb er mwyn ffurfio Byrddau Iechyd, gan gynnwys Caerdydd, Abertawe, Merthyr Tudful, Aberdâr a Maesteg. Roedd effeithiolrwydd y Byrddau Iechyd lleol yn amrywio’n fawr gan fod eu pwerau’n gyfyngedig ac roeddent yn dibynnu i raddau helaeth ar ddiddordeb lleol ac ewyllys da.

Ym Merthyr Tudful, sefydlwyd cyflenwad dŵr cyhoeddus a chwblhawyd cronfa ddŵr yn 1863, a gosodwyd pibellau carthion o dan y ddaear.

Yng Nghaerdydd, buddsoddwyd bron i £100,000 mewn draeniau a chyflenwadau dŵr rhwng 1848 a 1872.

Hefyd darparodd adroddiadau’r Swyddogion Meddygol Iechyd newydd dystiolaeth ac ystadegau defnyddiol ar gyflyrau a chyfraddau marwolaethau. Er enghraifft, yn 1858, cyflwynodd y Swyddog ar gyfer Caerdydd restr o 222 o anheddau’n cartrefu 2,920 o bobl, gan gynnwys un tŷ gyda 26 o drigolion. Roedd y ffigurau hyn yn cefnogi'r angen am welliannau.

Deddf Iechyd y Cyhoedd 1875

Dechreuodd y pwysau gynyddu ar y Llywodraeth. Yn y diwedd, gorfododd Deddf Iechyd y Cyhoedd 1875 gynghorau i wneud gwelliannau.

Roedd hynny yn cynnwys darparu dŵr glân, draenio priodol a systemau carthffosiaeth a phenodi Swyddog Meddygol dros Iechyd ym mhob ardal.

Mewn gwirionedd, yn ystod y 1870au, cafwyd cyfres o ddeddfau newydd a wnaeth arwain at welliannau o ran iechyd y cyhoedd a hylendid.

BlwyddynDeddf
1875Fe wnaeth Ddeddf Anheddau’r Gweithwyr alluogi cynghorau i glirio’r hofelau ac adeiladu gwell tai i deuluoedd gweithwyr.
1876Roedd Deddf Gwerthu Bwyd a Chyffuriau yn gwahardd defnyddio sylweddau niweidiol mewn bwyd, ee sialc mewn blawd.
1876Cyflwynwyd deddfau cadarn yn erbyn llygru afonydd.
1878Daeth Coedwig Epping yn Llundain i fod yn fan agored gwarchodedig i bobl leol ei fwynhau.
Blwyddyn1875
DeddfFe wnaeth Ddeddf Anheddau’r Gweithwyr alluogi cynghorau i glirio’r hofelau ac adeiladu gwell tai i deuluoedd gweithwyr.
Blwyddyn1876
DeddfRoedd Deddf Gwerthu Bwyd a Chyffuriau yn gwahardd defnyddio sylweddau niweidiol mewn bwyd, ee sialc mewn blawd.
Blwyddyn1876
DeddfCyflwynwyd deddfau cadarn yn erbyn llygru afonydd.
Blwyddyn1878
DeddfDaeth Coedwig Epping yn Llundain i fod yn fan agored gwarchodedig i bobl leol ei fwynhau.

Erbyn 1884, rhoddwyd y bleidlais i’r rhan fwyaf o ddynion oedd yn gweithio. O hynny ymlaen roedd yn fwy tebygol i’w galwadau gael eu clywed gan yr ASau oedd eisiau eu pleidleisiau.

Deddf Addysg 1870

Golygodd Deddf Addysg 1870 bod addysg yn orfodol. Roedd rhai ysgolion yn dysgu addysg iechyd, tra bod gwell llythrennedd yn galluogi i’r cyhoedd ddarllen pamffledi’r llywodraeth, ee ynghylch iechyd, diet etc. Roedd rheoliadau adeiladu yn golygu tai o well ansawdd i’r dosbarth gweithiol.

Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd y Chwyldro Diwydiannol o’r diwedd yn creu buddion i’r dosbarth gweithiol. Pasiwyd deddfau oedd yn cyfyngu ar oriau gwaith ac yn gwella amodau gwaith.

Roedd cyflogau uwch yn helpu i bobl gael gwell tai a diet iachach a mwy amrywiol. Arweiniodd diwydiannu at gynhyrchion rhatach a fasgynhyrchwyd, ee sebon, diheintydd, toiledau, dillad cotwm ayb. oedd yn gwella iechyd.

Cynnydd cymysg

Hyd yn oed ar ôl pasio Deddf Iechyd y Cyhoedd 1875, ni ddigwyddodd y cynnydd mor gyflym ag a obeithiwyd. Er bod rhai cynghorau, megis Birmingham wedi gwneud cynnydd da o ran adeiladu carthffosydd a chyflenwadau dŵr etc. roedd eraill yn llusgo y tu ôl.

Mae’r disgrifiad hwn o Afon Rhondda a ysgrifennwyd gan y Dr Bruce Law, y Swyddog Meddygol dros Iechyd, yn ei adroddiad blynyddol yn 1893, yn dangos bod y cynnydd yn rhai o’r ardaloedd tlotaf yn araf.

The river contains a large proportion of human excrement, stable and pigsty manure, congealed blood, offal and entrails from the slaughterhouses, the rotten carcasses of animals, cats and dogs…old cast-off articles of clothing and bedding, and boots, bottles, ashes, street refuse and a host of other articles…In dry weather the stench becomes unbearable.
Dr Bruce Low

Ar ddiwedd y 19eg ganrif gwelwyd datblygiadau sylweddol o ran darpariaeth iechyd cyhoeddus a hylendid. Ond, roedd llawer o afiechydon yn dal i fodoli. Yn 1900, roedd disgwyliad oes yn dal o dan 50 oed, ac roedd 165 o fabanod o bob 1,000 yn dal i farw cyn eu pen-blwydd cyntaf.