Teithlyfr
Mae teithlyfr gan amlaf yn gofnod o brofiadau'r awdur yn teithio o amgylch y byd. Pwrpas teithlyfr yw diddanu’r darllenydd drwy adolygu neu ddisgrifio ei brofiad mewn gwlad benodol.
Iaith ac arddull teithlyfr:
- berfau byrlymus
- ffeithiau a ffigurau
- ansoddeiriau cyffrous
- iaith anffurfiol
- cymariaethau/personoli pan mae'n addas
Enghraifft
Ein bwriad y prynhawn hwn oedd ymweld â chastell Caerdydd sydd yn sefyll yn smart yng nghanol y ddinas. Diolch i drefnwyr y daith cawsom gyfle i weld y bêl rygbi enfawr oedd yn rhan o’r castell i nodi cystadleuaeth Cwpan y Byd. Er mawr siom i ni, nid oedd y castell ar agor felly ymlwybron ni draw at Stadiwm y Mileniwm a rhyfeddu ar ei hadlewyrchiad prydferth ar yr afon Taf. Wedi cerdded yn hamddenol ar hyd ochr y stadiwm cawsom ein stopio’n stond gan ddynion yn gwerthu crysau a hetiau coch gyda ‘Wales Cymru’ mewn ysgrifen fras drostynt.
Tasg
Dychmyga dy fod am annog pobl i ymweld â dy dref/pentref. Disgrifia'r profiad o gerdded trwy’r ardal. Cofia ddisgrifio a nodi’r pethau hyfryd am yr ardal.