Ymson
Pwrpas ymson yw nodi llif meddwl yr unigolyn yn y foment honno.
Iaith ac arddull
- Ysgrifennu yn y presennol (person cyntaf), ee 'Dyma fi’n eistedd mewn gwers ddiflas eto!'
- Defnyddio berfau’r presennol, ee gwelaf, teimlaf.
- Disgrifio teimladau, ee 'O! Dw i wedi cael llond bol!'
- Defnyddio’r synhwyrau ac ebychiadau i greu awyrgylch.
- Atalnodi’n addas – ebychnod (!), gofynnod (?), ayyb.
- Defnyddio cymariaethau, ansoddeiriau a throsiadau.
Ymson pwy?
Darllena'r enghreifftiau o ymson isod – ymson pwy yw’r rhain?
Question
Ych, ych, ych. Dw i’n casáu’r lle ’ma. Mae’n llawer rhy lân yma ac mae’n drewi a dw i’n teimlo’n anghyfforddus bob tro dw i’n dod yma. Ma’r fenyw yn y dderbynfa mor sych ag unrhyw beth ac wedyn, pan ga’ i fynd mewn i’r ystafell arall yna, wel, dyna i chi ystyr y gair hunllef. Dyn neu fenyw sy’n eich prodio a’ch procio yn ddi-ben-draw ac wedyn, ysgrifennu rhywbeth annealladwy ar ddarn bach o bapur, a mas a fi.
Person yn ystafell aros y meddyg.
Question
Golau dydd. Beth yw hwnnw? Peth dieithr iawn i mi. Eistedd yn yr un lle o ddydd i ddydd. Mynd i’m gwely yw’r unig beth sydd gennyf i edrych ymlaen ato. Dw i’n gweld eisiau lot o bethe - cawl mamgu, chips o’r chippy, Chinese”. Na, dim gobaith. Fy mai i yw e, mae’n siŵr. Pam wnes i fe? Dw i dal ddim yn siŵr. Un peth sy’n sicr, bydd rhaid syllu ar waliau plaen, diflas am sbel eto.
Carcharor.