Dyddiadur
Pwrpas dyddiadur yw nodi digwyddiadau sydd wedi digwydd. Hefyd, mae modd i ti nodi dy deimladau neu dy farn am rywbeth. Mae dyddiadur yn rhywbeth personol iawn.
Iaith ac arddull dyddiadur
- Defnyddio person cyntaf y ferf i nodi teimladau personol a digwyddiadau personol.
- Defnyddio’r trydydd person i gyfeirio at weithredoedd rhywun arall.
- Mae modd defnyddio cyfuniad o amser y gorffennol (beth sydd wedi digwydd), presennol (teimladau wrth ysgrifennu’r dyddiadur) a’r dyfodol (dymuniadau ar gyfer y dyfodol).
- Iaith anffurfiol bob dydd.
Dylet ti gynnwys ansoddeiriau, cymariaethau, personoli neu drosiadau diddorol.
Enghraifft
Larwm am chwech? Be’?
“Mi fyddi di’n hwyr, ma’ dy frecwast di’n oeri!” Dad - mae angen is-deitlau arno fe weithiau. Mae’n union fel un o’r sarjants yn yr hen ffilmiau du a gwyn yna am yr Ail Ryfel Byd! Myn diawl, fe neith e’n lladd i os neith e fyth ddarllen hwn! Wps.
Ie, ie, codi’n gynnar amdani. Ro’n i ar bigau’r drain yn meddwl ei fod wedi bod wrthi’n coginio rhyw frecwast ysblennydd à la Jamie Oliver i mi ar gyfer fy niwrnod mawr. Blincin cornfflêcs a llaeth oer! Ac ar ben hynny, siafins y cornfflêcs oedden nhw â diferyn llipa o laeth. Brecwast llwm ar y naw. Mae’n siŵr yr oedd Oliver Twist yn bwyta mwy i frecwast na beth gefais i'r bore ’ma. Dw i wirioneddol yn gobeithio bod y ffŵl dwl wedi bod i siopa neu dw i’n mynd i lwgu bore fory! Brecwast oer, diwrnod oer. Doedd hi ddim yn argoeli’n dda, ond mi gafodd e fi allan o’r gwely a lawr staer. Da iawn Dad.
Tasg
Ysgrifenna baragraff agoriadol dyddiadur yn adrodd hanes dy ddiwrnod. Rhaid i ti geisio dal sylw’r darllenydd yn syth:
- dechrau gydag ebychiad
- nodi digwyddiad
- nodi sut wyt ti’n teimlo
- nodi dy obeithion ar gyfer y dyfodol
- fflach - cynnwys nodweddion arddull, ee ansoddeiriau, ailadrodd, cymariaethau