Portread o berson
Beth yw portread?
Mewn portread mae angen i ti ddisgrifio person yn fanwl. Mae angen i ti ddisgrifio edrychiad, personoliaeth, hanes a rhywbeth diddorol am y person, ee digwyddiadau neu ei waith. Mae angen i ti gynnwys nodweddion arddull amrywiol i wneud dy waith yn ddiddorol.
Iaith ac arddull portread
- Mae angen i ti ysgrifennu yn y trydydd person, ee Mae e’n fachgen drwg/Mae hi’n ferch fywiog a brwdfrydig.
- Mae angen i ti dreiglo’n feddal ar ôl 'ei' gwrywaidd, ee ei ben moel, ei goesau cadarn.
- Mae angen i ti dreiglo’n llaes ar ôl 'ei' benywaidd, ee ei chyhyrau mawrion, ei chefn crwm.
- Mae angen i ti dreiglo’n feddal ar ôl yr arddodiad gan – mae ganddo wallt, mae ganddi drwyn.
Question
Newidia'r brawddegau isod o’r person cyntaf i’r trydydd person.
Mae gen i wallt byr a syth.
Rydw i’n swnllyd.
Dydw i ddim yn ofni dangos fy nheimladau.
Mae gen i deulu cefnogol.
Does gen i ddim un blewyn ar fy mhen.
Mae ganddo/ganddi wallt byr a syth.
Mae e’n/hi’n swnllyd.
Dydy e/hi ddim yn ofni dangos ei deimladau/ei theimladau.
Mae ganddo/ganddi deulu cefnogol.
Does ganddo/ganddi ddim math o flewyn ar ei ben/ei phen.
Bydd nodweddion arddull fel y rhai hyn yn gwneud dy waith yn ddiddorol.
Ansoddeiriau
- Llygaid – disglair, drygionus, hapus, llwyd, cyfrwys
- Gwallt – anniben, tywyll, golau, syth, seimllyd
- Personoliaeth – amyneddgar, direidus, pryfoclyd, gweithgar, hapus, caredig
Cymariaethau
- Gwallt blêr fel gwrych.
- Corff esgyrnog fel sgerbwd.
- Llygaid fel dwy farblen sgleiniog.
Trosiadau
- Tas wair yn gorffwys ar ei ben.
Personoli
- Gwallt yn dawnsio yn y gwynt wrth iddo redeg drwy’r stryd.
Cofia roi trefn ar dy waith drwy ei strwythuro yn ofalus:
- paragraff cychwynnol
- darlun nodweddiadolCyffredin ('typical' yn Saesneg). - hanesion diddorol, personoliaeth, arferion
- pryd a gwedd - llygaid, wyneb, gwallt, corff, dillad
- pam fod y person yma yn arbennig?
Enghraifft
Roedd Gareth yn fachgen digon plaen. Roedd ganddo lygaid llwyd bychain ac roedd ei wallt byr tywyll yn daclus bob amser. Roedd yn mynd i eistedd ar yr un fainc yn y parc bob dydd i fwyta ei ginio gan anwybyddu pawb oedd o’i gwmpas. Doedd neb am geisio cynnal sgwrs ag ef. Er ei fod yn fachgen caredig roedd rhywbeth yn od amdano.
Nawr darllena'r portread byr eto...
Heb os, bachgen digon plaen oedd Gareth. Roedd ganddo lygaid llwyd bychain fel botymau ar grys ac roedd ei wallt byr tywyll yn eistedd yn daclus ar ei ben. Yn ddi-ffael, roedd Gareth yn ymlwybro at yr un fainc i fwyta ei ginio yn ddyddiol. Anaml iawn y byddai Gareth yn cynnal sgwrs ag unrhyw un a doedd dim un o drigolion y parc yn meiddio siarad ag ef. Er gwaethaf ei bersonoliaeth garedig, roedd rhywbeth yn od am Gareth.
Pa un yw’r gorau?
Yr ail yw’r gorau oherwydd ei fod yn defnyddio mwy o nodweddion arddull byw, ee:
- cymariaethau, ee llygaid llwyd bychain fel botymau ar grys
- amrywio dechrau brawddegau, ee heb os, yn ddi-ffael, anaml iawn, er gwaethaf
- berfau diddorol, ee ymlwybro
- personoli, ee ei wallt byr tywyll yn eistedd yn daclus ar ei ben