Talgrynnu i ffigurau ystyrlon – haen uwch
Rydyn ni’n aml yn defnyddio’r dull o dalgrynnu i ffigur ystyrlon gan ei fod yn bosib ei ddefnyddio gydag unrhyw fath o rif, waeth pa mor fawr neu fach yw’r rhif. Pan fo papur newydd yn cyhoeddi bod rhywun wedi ennill £3 miliwn ar y loteri, mae’n debyg fod hwn wedi cael ei dalgrynnu i un ffigur ystyrlon. Mae’n talgrynnu i’r ffigur pwysicaf yn y rhif.
Er mwyn talgrynnu i ffigur ystyrlon:
- edrycha ar y digid cyntaf sydd ddim yn sero os wyt ti’n talgrynnu i un ffigur ystyrlon
- edrycha ar y digid a ddaw ar ôl y digid cyntaf sydd ddim yn sero os wyt ti’n talgrynnu i ddau ffigur ystyrlon
- llunia linell fertigol ar ôl y digid gwerth lle sydd ei angen
- edrycha ar y digid nesaf
- os yw’n 5 neu fwy, gwna’r digid blaenorol un yn fwy
- os yw’n 4 neu lai, cadwa’r digid blaenorol yr un fath
- rho sero yn unrhyw lefydd gwag sydd ar y dde i’r llinell, gan stopio wrth y pwynt degol os oes yna un
Enghreifftiau
Talgrynna 53,879 i un a dau ffigur ystyrlon.
- 5|3879 i un ffigur ystyrlon yw 50,000
- 53|879 i ddau ffigur ystyrlon yw 54,000
Sylwa mai nifer y ffigurau ystyrlon yn y cwestiwn yw nifer mwyaf posib y digidau sydd ddim yn sero yn dy ateb.
Talgrynna 0.005089 i un a dau ffigur ystyrlon.
- 0.005|089 i un ffigur ystyrlon yw 0.005
- 0.0050|89 i ddau ffigur ystyrlon yw 0.0051
Question
Beth yw 98,347 wedi ei dalgrynnu i un a dau ffigur ystyrlon?
- 9|8347 i un ffigur ystyrlon yw 100,000
- 98|347 i ddau ffigur ystyrlon yw 98,000
Question
Beth yw 3.5175 wedi ei dalgrynnu i un a dau ffigur ystyrlon?
- 3|.5175 i un ffigur ystyrlon yw 4
- 3.5|175 i ddau ffigur ystyrlon yw 3.5