Talgrynnu i leodd degol
Pan fyddwn yn talgrynnu gan ddefnyddiolle degolNifer y digidau sydd eu hangen ar ôl y pwynt degol wrth dalgrynnu ateb degol. (lld), fel arfer rhoddir lefel y cywirdeb sydd ei hangen. Er hyn, mewn rhai cyfrifiadau penodol, gall lefel y cywirdeb fod yn fwy amlwg. Er enghraifft, dylai unrhyw gyfrifiadau sy’n ymwneud ag arian gael eu rhoi i ddau le degol er mwyn cynrychioli’r ceiniogau.
Er mwyn talgrynnu i le degol:
- edrycha ar y digid cyntaf ar ôl y pwynt degol os wyt ti’n talgrynnu i un lle degol, neu’r ail ddigid ar gyfer dau le degol
- llunia linell fertigol ar y dde i’r digid gwerth lle sydd ei angen
- edrycha ar y digid nesaf
- os yw’n 5 neu fwy, gwna’r digid blaenorol un yn fwy
- os yw’n 4 neu lai, cadwa’r digid blaenorol yr un fath
- gelli gael gwared ag unrhyw rifau sydd i’r dde o’r llinell
Enghreifftiau
Talgrynna 248.561 i un a dau le degol.
- 248.5|61 i un lle degol yw 248.6
- 248.56|1 i ddau le degol yw 248.56
Sylwa y dylai dy ateb gael yr un nifer o lefydd degol â’r hyn a oedd yn angenrheidiol ar gyfer y brasamcan.
Talgrynna 0.08513 i un a dau le degol.
- 0.0|8513 i un lle degol yw 0.1
- 0.08|513 i ddau le degol yw 0.09
Question
Talgrynna 249.5046 i un a dau le degol.
- 249.5|046 i un lle degol yw 249.5
- 249.50|46 i ddau le degol yw 249.50
Sylwa fod 249.50 = 249.5. Er hyn, gan fod y cwestiwn yn gofyn am ddau le degol, rydyn ni’n cadw’r ddau rif.
Question
Talgrynna 0.9583 i un a dau le degol.
- 0.9|583 i un lle degol yw 1.0
- 0.95|83 i ddau le degol yw 0.96
Question
Talgrynna 598.053 i un a dau le degol.
- 598.0|53 i un lle degol yw 598.1
- 598.05|3 i ddau le degol yw 598.05