Deall cymarebau
Mae cymhareb yn dangos y berthynas rhwng dau nifer.
Mae'n cymeryd 1.2 munud i orffen cylchdro wrth deithio ar gyflymder o 25 Speedy Sprints.
Gan fod y cyflymder a’r amser mewn cyfrannedd gwrthdro, ni elli raddio i fyny i ganfod y gymhareb newydd, rhaid i ti ddefnyddio’r berthynas, \({c}=\frac{k}{a}\). Trwy amnewid y gwerthoedd ar gyfer \({c}\) ac \({a}\), gallwn ganfod y cysonyn \({k}\); 10 = \(\frac{k}{3}\), \({k}\) = 10 × 3 = 30. Nawr gallwn ddefnyddio’r hafaliad \({c}=\frac{30}{a}\) i gyfrifo’r amser pan fo’r cyflymder yn 25:
25 = \(\frac{30}{a}\), \({a}\) = 30 ÷ 25 = 1.2 munud.
Mae’n cael ei ysgrifennu ar ffurf a:b, sy’n cael ei ddarllen fel ‘a i b’.
Enghraifft
Mae gan Jon becyn o losin. Mae’n eu rhannu â’i ffrind mewn cymhareb o 3:2. Mae hyn yn golygu am bob tri darn o losin mae John yn eu bwyta, mae’n rhoi dau i’w ffrind.
Os yw Jon yn bwyta 15 losin (5 × 3), bydd ei ffrind yn cael 10 losin (5 × 2).
Question

Mae bara’n cael ei wneud trwy ddefnyddio pum rhan o flawd i dair rhan o hylif.
a) Ysgrifenna gymhareb yr hylif i’r blawd.
b) Os yw’r rysàit yn gofyn am 200 g o flawd, faint o hylif fydd ei angen?
a) 3:5
Gan fod y cwestiwn yn gofyn am gymhareb yr hylif i’r dŵr, rhaid i ti ysgrifennu nifer y rhannau o hylif yn gyntaf, ac yna’r blawd.
b) Pum rhan = 200
Un rhan = 200 ÷ 5 = 40
Tair rhan = 3 × 40 = 120
Bydd angen 120 ml o hylif.
Question
Mae bisgedi cwcis yn cael eu gwneud trwy ddefnyddio’r gymhareb 3:2:1 o flawd, braster a siwgr.
Os yw rysàit yn gofyn am 150 g o flawd, faint o fraster a siwgr sydd eu hangen?
Tair rhan = 150 g
Rhanna 150 â thri i weld faint yw gwerth un rhan
Un rhan = 50 g
Braster = Dwy ran = 2 × 50 = 100 g
Siwgr = Un rhan = 50 g