Rhannu mewn cymarebau penodol
Gellir hefyd defnyddio cymhareb i rannu nifer yn rhannau llai.
Enghraifft 1

LLUN: Getty/yorkfoto
Mae Rebeckah ac Amy yn rhannu £280 yn y gymhareb 5:2. Faint o arian fydd y ddwy’n ei dderbyn?
- Adia’r gymhareb i ganfod cyfanswm nifer y rhannau: 5 + 2 = 7 rhan
- Rhanna’r cyfanswm â nifer y rhannau: £280 ÷ 7 = £40 felly £40 yw gwerth pob rhan
- Lluosa â’r gymhareb i ganfod cyfran y ddau berson: 5 × £40 = £200 (cyfran Rebeckah) 2 × £40 = £80 (cyfran Amy)
- Gwiria fod y rhain yn adio i roi’r swm gwreiddiol: £200 + £80 = £280
Enghraifft 2

LLUN: Paul Bradbury
Mae David a Harriet yn rhannu cost tocyn tymor pêl-droed yn y gymhareb 3:7. Os yw David yn talu £105, faint yw cost lawn y tocyn tymor?
- Mae David yn talu tair rhan = £105. £105 ÷ 3 = £35 = 1 rhan
- Roedd y gost wedi ei rhannu yn 3 + 7 = 10 rhan
- £35 × 10 = £350
Cyfanswm cost y tocyn yw £350.
Question
Mae aloi’n cynnwys magnesiwm, sinc a chopr yn y gymhareb 5:3:4. Os yw aloi’n pwyso 720 g, faint o hwn fyddai’n fagnesiwm, sinc a chopr?
- Adia'r gymhareb i ganfod cyfanswm nifer y rhannau: 5 + 3 + 4 = 12 rhan
- Cyfrifa werth un rhan: 720 g ÷ 12 = 60 g
- Lluosa bob cymhareb â 60: 60 g × 5 = 300 g o fagnesiwm 60 g × 3 = 180 g o sinc 60 g × 4 = 240 g o gopr
- Gwiria eu bod yn adio i 720 g: 300 + 180 + 240 = 720 g
Question
I wneud paent pinc, dw i’n cymysgu paent coch a gwyn yn y gymhareb 4:5. Os dw i’n defnyddio 600 ml o baent coch, sawl litr o baent fydda i’n ei wneud?
- Paent coch = Pedair rhan = 600 ml
- 600 ml ÷ 4 = 150 ml = Un rhan
- Cyfanswm y rhannau = 4 + 5 = 9
- 150 ml × 9 = 1,350 ml o baent
- Gelli drawsnewid i litrau trwy ÷ 1,000: 1,350 ÷ 1,000 = 1.35 litr o baent wedi ei wneud