Cyfrifo ffurf safonol heb gyfrifiannell
Adio a thynnu
Wrth adio a thynnu rhifau yn eu ffurf safonolSystem lle mae rhifau’n cael eu hysgrifennu fel rhif sy’n fwy nag 1 ac yn llai na 10, yn cael ei luosi â phŵer o 10 a all fod yn bositif neu’n negatif. mae’n rhaid i ti:
- drawsnewid y rhifau o ffurf safonol i ffurf ddegol neu rifau cyffredin
- gorffen y cyfrifiad
- trawsnewid y rhif yn ôl i ffurf safonol
Enghraifft
Cyfrifa \((4.5 \times 10^4) + (6.45 \times 10^6)\)
\(= 45,000 + 6,450,000\)
\(= 6,495,000\)
\(= 6.495 \times 10^6\)
Question
Cyfrifa \((8.5 \times 10^7) - (1.23 \times 10^4)\)
\(= 85,000,000 - 12,300\)
\(= 84,987,700\)
\(= 8.49877 \times 10^7\)
Lluosi a rhannu
Wrth luosi a rhannu, gelli ddefnyddio rheolau indecsau i’w defnyddio gyda’r pŵerMae rhif sy’n cael ei luosi ag ef ei hun unwaith neu fwy yn cael ei godi i bŵer.:
- lluosi neu rannu’r rhifau cyntaf
- defnyddio’r rheolau indecsau gyda’r pwerau
Enghraifft un
Cyfrifa \((3 \times 10^3) \times (3 \times 10^9)\)
Lluosa’r rhifau cyntaf – sef, yn yr achos hwn \(3 \times 3 = 9\)
Defnyddia reol yr indecsau ar yr esbonyddY pŵer y codir rhif iddo.:
- \(10^3 \times 10^9 = 10^{3 + 9} = 10^{12}\)
- \((3 \times 10^3) \times (3 \times 10^9) = 9 \times 10^{12}\)
Gofala fod yr ateb yn ei ffurf safonol. Mae’n arferol i ni orfod ailaddasu’r ateb.
Enghraifft dau
Cyfrifa \((4 \times 10^9) \times (7 \times 10^{-3})\)
Lluosa’r rhifau cyntaf \(4 \times 7 = 28\)
Defnyddia reol yr indecsau ar yr esbonyddion:
- \(10^9 \times 10^{-3} = 10^{9 + -3} = 10^6\)
- \((4 \times 10^9) \times (7 \times 10^{-3}) = 28 \times 10^6\)
Ond nid yw \(28 \times 10^6\) mewn ffurf safonol, gan nad yw’r rhif cyntaf rhwng 1 a 10. I gywiro hyn, rhanna 28 â 10 fel ei fod yn rhif rhwng 1 a 10. Er mwyn cydbwyso’r weithred o rannu â 10, lluosa’r ail ran â 10, sy’n rhoi 107.
Mae \(28 \times 10^6\) a \(2.8 \times 10^7\) yn union yr un fath ond dim ond yr ail sydd wedi ei ysgrifennu mewn ffurf safonol.
Felly \((4 \times 10^9) \times (7 \times 10^{-3}) = 2.8 \times 10^7\)
Question
Cyfrifa \((2 \times 10^7) \div (8 \times 10^2)\)
- Rhanna’r rhifau cyntaf: \(2 \div 8 = 0.25\)
- Defnyddia reol yr indecsau ar yr esbonyddion.
- \(10^7 \div 10^2 = 10^{7 - 2} = 10^5\)
- Felly \((2 \times 10^7) \div (8 \times 10^2) = 0.25 \times 10^5\)
Ond nid yw \(0.25 \times 10^5\) mewn ffurf safonol gan nad yw’r rhif cyntaf rhwng 1 a 10. I gywiro hyn, lluosa 0.25 â 10 fel ei fod yn rhif rhwng 1 a 10. Er mwyn cydbwyso’r weithred o luosi â 10, rhanna’r ail ran â 10, sy’n rhoi 104.
Felly mae \(0.25 \times 10^5\) a \(2.5 \times 10^4\) yn union yr un fath, ond dim ond yr ail sydd wedi ei ysgrifennu mewn ffurf safonol.
Felly \((2 \times 10^7) \div (8 \times 10^2) = 2.5 \times 10^4\)