Trawsnewid rhwng rhifau cyffredin a ffurf safonol
I drawsnewid rhif i’w ffurf safonolSystem lle mae rhifau’n cael eu hysgrifennu fel rhif sy’n fwy nag 1 ac yn llai na 10, yn cael ei luosi â phŵer o 10 a all fod yn bositif neu’n negatif., rhanna’r rhif yn ddwy ran – rhif wedi ei luosi â phŵer o 10.
Rhifau mawr
Enghraifft
Ysgrifenna 50,000 yn ei ffurf safonol.
Gallwn ysgrifennu 50,000 fel: \(5 \times 10,000\)
\(10,000 = 10 \times 10 \times 10 \times 10 = 10^4\)
Felly \(50,000 = 5 \times 10^4\)
Question
Beth yw 800,000 wedi ei ysgrifennu yn ei ffurf safonol?
Gallwn ysgrifennu 800,000 fel \(8 \times 100,000\)
\(100,000 = 10 \times 10 \times 10 \times 10 \times 10 = 10^5\)
Felly \(800,000 = 8 \times 10^5\)
Felly, nid yw \(34 \times 10^7\) mewn ffurf safonol gan nad yw’r rhif cyntaf rhwng 1 a 10. I gywiro hyn, rhanna 34 â 10. Er mwyn cydbwyso’r weithred o rannu â 10, lluosa’r ail ran â 10, sy’n rhoi 108.
Mae \(34 \times 10^7\) a \(3.4 \times 10^8\) yn union yr un fath ond dim ond yr ail sydd wedi ei ysgrifennu mewn ffurf safonol.
Enghraifft
Beth yw 87,000 yn ei ffurf safonol?
Gallwn ysgrifennu 87,000 fel \(8.7 \times 10,000\)
\(10,000 = 10 \times 10 \times 10 \times 10 = 10^4\)
Felly \(87,000 = 8.7 \times 10^4\)
Question
Beth yw 135,000 yn ei ffurf safonol?
Gallwn ysgrifennu 135,000 fel \(1.35 \times 100,000\)
\(100,000 = 10 \times 10 \times 10 \times 10 \times 10 = 10^5\)
felly \(135,000 = 1.35 \times 10^5\)
Enghraifft
3,000,000 = \(3 \times 10^6\) gan fod y 3 wedi ei leoli 6 lle oddi wrth y golofn unedau.
36,000 = \(3.6 \times 10^4\) gan fod y 3 wedi ei leoli 4 lle oddi wrth y golofn unedau.
Question
Beth yw 103,000,000 yn ei ffurf safonol?
\(1.03 \times 10^8\) gan fod yr 1 wedi ei leoli 8 lle oddi wrth y golofn unedau.
Question
Beth yw 1,230 yn ei ffurf safonol?
\(1.23 \times 10^3\) gan fod yr 1 wedi ei leoli 3 lle oddi wrth y golofn unedau.