Mae gwneud cyfrifiadau gyda rhifau mawr neu fach iawn yn anodd. Mae’n haws ymdrin â chyfrifiadau o’r fath, fel rhai sy’n ymwneud â’r gofod, drwy drawsnewid rhifau i mewn ac allan o ffurf safonol.
Part ofMathemategRhif
Mae’n ddefnyddiol i ni edrych ar batrymau er mwyn ceisio deall indecsau negatif:
\(3 \times 10^4 = 3 \times 10 \times 10 \times 10 \times 10 = 30,000\)
\(3 \times 10^3 = 3 \times 10 \times 10 \times 10 = 3,000\)
\(3 \times 10^2 = 3 \times 10 \times 10 = 300\)
\(3 \times 10^1 = 3 \times 10 = 30\)
\(3 \times 10^0 = 3 \times 1 = 3\) (gan fod \(10^0 = 1\))
\(3 \times 10^{-1} = 3 \times 0.1 = 0.3\)
\(3 \times 10^{-2} = 3 \times 0.1 \times 0.1 = 0.03\)
\(3 \times 10^{-3} = 3 \times 0.1 \times 0.1 \times 0.1 = 0.003\)
Ysgrifenna 0.0005 yn ei ffurf safonol.
Gallwn ysgrifennu 0.0005 fel \(5 \times 0.0001\)
\(0.0001 = 10^{-4}\)
Felly mae \(0.0005 = 5 \times 10^{-4}\)
Beth yw 0.000009 yn ei ffurf safonol?
Gallwn ysgrifennu 0.000009 fel \(9 \times 0.000001\)
\(0.000001 = 10^{-6}\)
Felly \(0.000009 = 9 \times 10^{-6}\)
Gallwn gyflymu’r broses hon hefyd drwy ystyried ym mhle mae’r digid cyntaf o’i gymharu â cholofn yr unedau.
0.03 = \(3 \times 10^{-2}\) gan fod y 3 wedi ei leoli 2 le oddi wrth y golofn unedau.
0.000039 = \(3.9 \times 10^{-5}\) gan fod y 3 wedi ei leoli 5 lle oddi wrth y golofn unedau.
Beth yw 0.000059 yn ei ffurf safonol?
\(5.9 \times 10^{-5}\) gan fod y 5 wedi ei leoli 5 lle oddi wrth y golofn unedau.