Hip-hopMr Phormula

Mae’r term ‘hip-hop’ yn cyfeirio at ddiwylliant trefol du Americanaidd, ac mae DJ-io, celf graffiti, breg-ddawnsio, MC-io a rapio yn rhan ohono. Ymhlith yr artistiaid hip-hop rhyngwladol amlwg mae Jay-Z a Public Enemy. Mae Mr Phormula yn artist hip-hop enwog o Gymru.

Part ofCerddoriaethCerddoriaeth boblogaidd

Mr Phormula

Mae Ed Holden, neu Mr Phormula, yn dod o ogledd Cymru. Mae’n arbenigo yn elfen bît-bocsio hip-hop, ac mae’n cyfansoddi cerddoriaeth ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg. Yn 2018, daeth yn Bencampwr Dolennu Cymru, a chynrychioli Cymru hefyd ym Mhencampwriaeth Brwydr Bît-Bocsio’r Byd.

Ed Holden, sef Mr Phormula, yn sôn am ei baratoadau at Bencampwriaeth Brwydr Bît-Bocsio’r Byd [Cynnwys Saesneg]

Trac 'Cwestiynau'

Mae Cwestiynau yn ddarn enwog o gerddoriaeth sydd wedi’i greu gan Mr Phormula. Wrth ei greu, fe ddefnyddiodd ei brofiadau personol er mwyn cyfansoddi darn o gerddoriaeth gyda neges rymus. Cafodd y darn ei gyfansoddi mewn nifer o gamau:

  1. Cafodd bît lleisiol ei berfformio gan ddefnyddio technegau bît-bocsio, a’i recordio gan ddefnyddio meddalwedd cyfrifiadurol.
  2. Y llinell fas gafodd ei recordio nesaf, gyda’r cyfansoddwr yn canu mewn cwmpasran isel.
  3. Cafodd y llinell fas hon wedyn ei , gan ddefnyddio i greu effaith bas isel, gan gynhyrchu sain fawr.
  4. Cafodd y llinell fas ei chopïo, a chafodd ystumiant ei ychwanegu er mwyn creu sain atmosfferig.
  5. Nesaf, recordiodd y cyfansoddwr y llinellau lleisiol a gafodd eu haenu ar dop y llinell fas er mwyn creu effaith gorawl. Cafodd gwahanol ategion - , ategyn a - eu defnyddio i greu’r sain atmosfferig y mae modd ei chlywed yn y rhagarweiniad.
  6. Yn olaf, cafodd y geiriau eu hysgrifennu, gyda’r cyfansoddwr yn gwrando ar y gerddoriaeth dro ar ôl tro i gael ysbrydoliaeth i’r geiriau.

Sawl gwaith yn y gân, mae llinell felodig lefn, traw uchel, yn cael ei chyflwyno i gyferbynnu â’r rhan rythmig traw is.

Tuag at ddiwedd y gân, mae adran gyferbyniol lle mae’r cyfansoddwr yn cael gwared ar lawer o elfennau’r cyfeiliant, er enghraifft y rhythm bît-bocsio a’r effeithiau corawl, gan adael dim byd ond y geiriau i gael eu clywed yn glir, sef ‘Dw i’n defnyddio fy llais fel offeryn’.

More guides on this topic