DJs

Fatboy Slim yn perfformio yng ngŵyl RockNess
Mae DJs cerddoriaeth ddawns yn defnyddio ffyrdd gwahanol o drin sain recordiadau, gan ychwanegu eu helfen greadigol eu hunain at y gerddoriaeth maen nhw’n ei chwarae. Ar y dechrau, recordiau finyl y byddai DJs yn eu defnyddio, ond heddiw mae nifer yn defnyddio deciau CD, gliniaduron a phecynnau meddalwedd i gymysgu traciau, dolennu adrannau a chreu cyfansoddiadau newydd yn fyw.
Ymhlith technegau’r DJ mae:
- Cymysgu - sef cymysgu recordiau gyda’i gilydd.
- Cyfateb curiadau - newid y cyflymder wrth chware record fel bod y tempo’n cyfateb i dempo’r gân sy’n chwarae ar y pryd.
- Breg-fîtio - mae angen dau ddec i droelli’r un record, sy’n cynnwys rhyw fath o interliwd neu doriad gydag offerynnau taro. Pan fydd y toriad yn cael ei chwarae ar ddec 1, mae’r DJ yn symud yn sydyn i ddec 2, lle mae’r toriad eisoes wedi’i osod yn barod. Mae modd ailadrodd y broses, gan symud rhwng y deciau, er mwyn ymestyn y toriad gwreiddiol am ba mor hir bynnag. Mae enghraifft i’w chlywed fan hyn:
Afrika Bambaataa - 'Planet Rock'
- Ciwio - dod o hyd i bwynt addas ar record i gymysgu i mewn i’r pwynt hwnnw.
- Blendio - pan fydd DJ yn defnyddio’r hafalydd i greu cymysgiad sy’n swnio’n ddi-dor.
- Newid traw - newid cyflymder y record.
- Crafu - symud record finyl yn ôl ac ymlaen, gan ddefnyddio gwahanol dechnegau croes graddolwrLlithrydd rheoli ar ddyfais electronig er mwyn codi neu ostwng lefelau’r sain. i dorri sain i mewn ac allan. Mae enghraifft i’w chlywed fan hyn:
Grand Wizzard Theodore - 'Fantastic Freaks at the Dixie'
- Jyglo bît - y weithred o drin dau samplRecordiad digidol byw sy’n cael ei ddefnyddio yng nghyd-destun darn o gerddoriaeth. neu ragor i greu cyfansoddiad unigryw.
- Dolennu - pan fydd samplwr digidol yn cael ei ddefnyddio i ailadrodd sampl drosodd a throsodd. Gwranda ar ail bennill Bring the Noise gan Public Enemy. Sylwa ar sut mae’n defnyddio rapio a sampl o Funky Drummer James Brown gan ychwanegu drymiau bas dwbl wedi’u rhaglennu.
Public Enemy - 'Bring the Noise'