Cerddoriaeth hip-hop
Mae cerddoriaeth hip-hop yn canolbwyntio ar rythm yn hytrach nag ar alaw a harmoni. Ei nodweddion yw:
- rapio
- defnyddio samplau
- defnyddio bîts wedi’u rhaglennu
- DJ-io
Mae rapio yn golygu adrodd geiriau mewn ffordd rythmig, sy’n odli, gan hanner siarad. Yn aml, bydd aelod arall o’r grŵp yn ymuno â’r prif lais er mwyn:
- dyblu gair olaf rhai llinellau
- ychwanegu brawddegau sy’n ateb
- ychwanegu geiriau ad lib
Dyfais yw samplwr sy’n gallu cymryd unrhyw sain sy’n cael ei roi i mewn iddo, ei brosesu, a’i chwarae yn ôl. Darn o sain wedi’i recordio’n ddigidol yw sampl. Gall hwn fod yn ríffPatrwm cerddorol sy’n cael ei ailadrodd mewn cerddoriaeth bop a roc fodern. gitâr fas, yn gytgan cân, yn sain gwydr yn torri, neu’n unrhyw beth dan haul.