Hip-hopDechreuadau hip-hop

Mae’r term ‘hip-hop’ yn cyfeirio at ddiwylliant trefol du Americanaidd, ac mae DJ-io, celf graffiti, breg-ddawnsio, MC-io a rapio yn rhan ohono. Ymhlith yr artistiaid hip-hop rhyngwladol amlwg mae Jay-Z a Public Enemy. Mae Mr Phormula yn artist hip-hop enwog o Gymru.

Part ofCerddoriaethCerddoriaeth boblogaidd

Dechreuadau hip-hop

Dechreuodd hip-hop yn ardal y Bronx yn Efrog Newydd yn yr 1970au.

Mae ei ddechreuadau lleisiol yn perthyn i’r traddodiad 'tostio' Jamaicaidd. MCs o Jamaica oedd y rhai cyntaf i ‘dostio’, ac mae’n golygu cyfuniad o siarad a siantio rhythmig

Byddai DJs Americanaidd-Affricanaidd, fel Grandmaster Flash a Kool Herc, a gafodd ei eni yn Jamaica ac sy’n cael ei adnabod fel ‘tad hip-hop’, yn ymestyn y rhannau offerynnol ar recordiau (neu’r 'toriadau') drwy gymysgu rhwng dau gopi unfath o’r un record.

Grand Master Flash
Image caption,
Grandmaster Flash

Byddai rhai o’r DJs (neu’r MCs) yn rapio ar ben y ‘toriadau’ mewn arddull o’r enw MC-io - lle byddai geiriau ac odlau’n cael eu llefaru er mwyn annog y gynulleidfa i ddawnsio.

Byddai’r dawnswyr yn codi yn ystod y toriadau ac yn dawnsio mewn ffordd hynod o egnïol, gan droelli’r pen a’r cefn. Daethon nhw i gael eu hadnabod fel breg-ddawnswyr.

Breg-ddawnsiwr yn troelli ben i waered

Byddai hip-hop cynnar yn cael ei berfformio’n fyw, fel arfer mewn partïon. Yn gyffredinol, mae pobl yn credu mai’r record hip-hop gyntaf oedd Rapper’s Delight gan The Sugarhill Gang, a gafodd ei recordio yn 1979.

Detholiad o draciau hip-hop ers 1981, gan gynnwys Grandmaster Flash

Yn yr 1970au a’r 80au, byddai’r geiriau’n aml yn canolbwyntio ar faterion cymdeithasol, gan roi llwyfan i Americanwyr Affricanaidd ifanc godi llais. Roedd y curiad bron wastad mewn amser 4/4, a’r gerddoriaeth yn aml yn cynnwys peiriannau drymio a syntheseiddwyr.

Yn yr 1980au, dechreuodd artistiaid ddefnyddio’r corff dynol i greu rhythmau, gan ddefnyddio’r geg, y gwefusau, y tafod a rhannau eraill o’r corff i greu bîts. Yr enw ar ddefnyddio’r llais fel techneg yn lle offerynnau taro yw . Ymhlith y perfformwyr cyntaf i ddefnyddio’r dechneg hon oedd Biz Markie a Doug E. Fresh.

More guides on this topic