Mae diagramau Venn yn adnodd defnyddiol ym myd ystadegau. Unwaith y byddi’n gyfarwydd â’r rhain, byddi’n gallu rhoi trefn ar bob math o grwpiau a setiau.
Gallwn ddangos yr holl wybodaeth yn hawdd ar ddiagram Venn:
Y rhan y byddai Sophie ynddi fyddai F ∩ H ∩ N, hynny yw, croestoriad y tair set.
I ddisgrifio pa ran o’r diagram Venn mae Freya ynddi, bydden ni’n ysgrifennu F ∩ N - F ∩ H ∩ N, hynny yw, croestoriad pêl-droed a phêl-rwyd minws croestoriad y tri gyda’i gilydd.
Bydden ni hefyd yn disgrifio’r rhan mae Freya ynddi fel F ∩ N ∩ H', hynny yw, croestoriad y set ar gyfer pêl-droed a phêl-rwyd ac nid hoci.
Question
Gan ddefnyddio nodiant set, sut byddet ti’n disgrifio pa ran o’r diagram Venn mae Noah ynddi?
H ∩ F' ∩ N'
Question
Gan ddefnyddio nodiant set, sut byddet ti’n disgrifio pa ran o’r diagram Venn mae Chris, Thomas a Sophie ynddi?