Diagramau Venn
Mae diagramau Venn yn lluniadau defnyddiol iawn wedi eu gwneud o ddau neu fwy o gylchoedd sydd weithiau’n gorgyffwrdd. Mae diagramau Venn yn aml yn ymddangos mewn nifer o feysydd mathemategol ond, ran amlaf, pan fyddwn yn ymdrin â setiau a thebygolrwydd.
Edrycha ar y diagram Venn hwn:
Mae’n dangos bod Set A = {1, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 12} a Set B = {2, 3, 4, 6, 7, 9, 11, 12, 13}
Os edrychwn ni ar y rhan sy’n gorgyffwrdd yn y diagram Venn, mae hyn yn cynrychioli A ∩ B = {6, 7, 9, 12} (Croestoriad A a B). Mae hyn yn cynnwys y rhifau sydd yn Set A a Set B.
Drwy edrych ar y ddau gylch yn eu cyfanrwydd, cawn A ∪ B = {1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13} (Uniad A a B).
Dwy set
Mae’r diagram Venn isod yn dangos dwy set arall ar ffurf graffigol. Mae’r setiau’n cynrychioli gwybodaeth am ddwy chwaer - Leah (L) a Kelly (K) a’u diddordebau.
Gallen ni ysgrifennu’r setiau fel L = {darllen, chwarae pêl-rwyd, darlunio} a K = {dawnsio, sglefrio, gwrando ar gerddoriaeth}.
O’r diagram, gwelwn nad oes croestoriad (L ∩ K = {}) sy’n golygu nad oes ganddyn nhw unrhyw ddiddordebau’n gyffredin.
Uniad y ddwy set hyn fyddai’r set sy’n cynnwys diddordebau Leah a Kelly:
L ∪ K = {darllen, chwarae pêl-rwyd, darlunio, dawnsio, sglefrio, gwrando ar gerddoriaeth}
Rho dro ar ateb y cwestiynau hyn:
Question
Rhestra’r eitemau yn:
- Set A
- Set B
- Set A = {12, 14, 15, 16, 17, 18, 20, 22}
- Set B = {16, 17, 20, 21, 22, 23, 24, 25, 28}
Question
Rhestra groestoriad ac uniad y diagram Venn hwn:
Croestoriad – A ∩ B = {3, 7, 9, 20}
Uniad – A ∪ B = {3, 7, 9, 10, 14, 15, 19, 20, 23, 24, 25, 26, 30}